Mae Ben Davies a David Brooks allan o garfan Cymru cyn y gemau yn erbyn y Weriniaeth Siec ac Estonia oherwydd salwch.

Daw hyn ar ôl i Rhys Norrington-Davies a Tom Lockyer dynnu’n ôl yn gynharach yn yr wythnos gydag anafiadau – mae’n dipyn i glec i Rob Page a’i ddynion.

Nid yw’r capten, Gareth Bale, yn y garfan ar gyfer y gemau chwaith oherwydd anaf “sylweddol”.

Cafodd Ben Cabango a Will Vaulks eu hychwanegu at y garfan ddydd Llun (4 Hydref).

Ond dyw Cymru heb ddatgelu a fydd unrhyw un yn cymryd lle Davies a Brooks cyn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.

Mae Cymru yn wynebu’r Weriniaeth Siec nos Wener (8 Hydref) ac yna Estonia nos Lun (11 Hydref).