Mae’r amddiffynwyr Rhys Norrington-Davies a Tom Lockyer wedi tynnu allan o garfan Cymru ar gyfer y gêmau rhagbrofol nesaf.

Bydd y canolwr Will Vaulks o glwb Caerdydd, a Ben Cabango o glwb Abertawe yn cymryd eu lle ar y teithiau oddi cartref i’r Weriniaeth Tsiec ac Estonia.

Siom

Dydy Vaulks heb chwarae i Gymru ers colli yn erbyn Lloegr y llynedd, ac yn gynharach eleni, fe fynegodd ei siom o beidio cael ei ddewis gan Rob Page.

Bydd Cymru’n herio Gweriniaeth Tsiec yn Prague ddydd Gwener (8 Hydref), cyn hedfan i Tallinn i chwarae Estonia ddydd Llun nesaf (11 Hydref).

Maen nhw eisoes wedi colli Gareth Bale, ond mae gobaith y bydd Aaron Ramsey yn ôl yn bresennol, yn ogystal â Sorba Thomas, sydd yn cael ei ddewis am y tro cyntaf.