Enwodd Rob Page ei garfan yr wythnos hon heb fawr o newydd annisgwyl, yn ôl ei arfer. Gydag un absenoldeb amlwg oherwydd anaf, gwylio’n nerfus a wnaeth cefnogwyr Cymru’r penwythnos hwn gan obeithio na fyddai mwy o anafiadau i amharu ar y paratoadau.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Chwaraeodd Dan James y gêm gyfan wrth i Leeds guro Watford o gôl i ddim ddydd Sadwrn. Cafodd Tyler Roberts ddeuddeg munud oddi ar y fainc a bu bron iddo ddyblu mantais ei dîm pan darodd y trawst gydag ymdrech hwyr.

Er i Connor Roberts gael ei enwi yng ngharfan Cymru, parhau i aros am ei gyfle cyntaf yng ngharfan Burnley y mae’r cefnwr de. Wayne Hennessey a oedd yr unig Gymro yng ngharfan y Clarets ar gyfer y gêm ddi sgôr yn erbyn Norwich, yn eilydd heb ei ddefnyddio.

Dyna oedd hanes ei gyd gôl-geidwad, Danny Ward, wrth i Gaerlŷr wynebu Crystal Palace ddydd Sul hefyd. Ni chafodd Ward gyfle yng Nghynghrair Europa ganol wythnos hyd yn oed er iddo gael ambell i gêm yn y cystadlaethau cwpan y tymor diwethaf.

Un a gafodd gêm yn Ewrop nos Iau a oedd amddiffynnwr Tottenham, Joe Rodon. Chwaraeodd y Cymro yn y fuddugoliaeth o bum gôl i un yn erbyn NS Mura o Slofenia ond roedd yn ôl ar y fainc ar gyfer y gêm gynghrair yn erbyn Aston Villa ddydd Sul. Nid oedd Ben Davies yn rhan o’r naill gêm na’r llall oherwydd problem gyda’i bendics. Dim ond gobeithio y bydd yn well erbyn nos Wener.

Joe Rodon

Nid yw Neco Williams wedi chwarae munud i Lerpwl y tymor hwn ond agorwyd cil y drws iddo gydag anaf diweddar i Trent Alexander-Arnold. Cafodd James Milner ac yna Joe Gomez eu ffafrio drosto yn erbyn Porto ganol wythnos serch hynny, dau chwaraewr yn chwarae allan o’u safle i bob pwrpas. Milner a ddechreuodd y gêm gynghrair bwysig yn erbyn Man City ddydd Sul hefyd gyda Williams yn gorfod bodloni gyda lle ar y fainc.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Parhau a wnaeth rhediad trychinebus Caerdydd wrth iddynt golli am y pumed gêm yn olynol ddydd Sadwrn, Reading yn ennill o gôl i ddim y tro hwn. Mae hynny’n sicr o roi safle Mick McCarthy o dan bwysau ond o safbwynt Cymru, byddai’n bechod pe byddai’r rheolwr yn colli’i swydd gan ei fod wedi rhoi cyfleoedd i gymaint o Gymry ifanc.

Dechreuodd Sam Bowen y penwythnos hwn ac roedd munudau oddi ar y fainc i Rubin Colwill. Eilydd heb ei ddefnyddio  oedd Mark Harris ond cafodd dau fwy profiadol, Kieffer Moore a Will Vaulks, gêm i’r Adar Gleision.

Mae’r golled yn gadael Caerdydd yn ugeinfed yn y tabl, un lle yn is na Abertawe, a gafodd gêm gyfartal ddi sgôr yn Derby. Roedd Ben Cabango yn rhan o’r amddiffyn a gadwodd lechen lân ac mae’n achos cryn benbleth i nifer pam nad yw ef yng ngharfan ddiweddaraf Page. Cafodd Liam Cullen ugain munud oddi ar y fainc i’r Elyrch hefyd a gellir dadlau ei fod yntau’n haeddu’i gyfle cymaint ag y mae Mark Harris a Rubin Colwill o Gaerdydd. Roedd Tom Lawrence yn gapten ar Derby ac fe allai fod wedi ennill y gêm iddynt yn y munudau olaf, yn gorfodi arbediad triphlyg gan Ben Hamer.

Bournemouth sydd ar frig y tabl ar ôl curo Sheffield United. Er iddo ddechrau ganol wythnos yn erbyn Peterborough, yn ôl ar y fainc yr oedd David Brooks ar y penwythnos ac ychydig o funudau ar y diwedd yn unig a gafodd Chris Mepham hefyd. Ar ôl dechrau’n rheolaidd am wythnosau, nid oedd Rhys Norrington-Davies hyd yn oed yng ngharfan y Blades ar gyfer y gêm hon.

Mae Stoke yn cystadlu tua’r brig hefyd a chawsant hwb nos Wener wrth i Joe Allen ddychwelyd i’r tîm yn dilyn anaf. Chwaraeodd Adam Davies yn y gôl a James Chester yn yr amddiffyn hefyd wrth iddynt gadw llechen lân a churo West Brom o gôl i ddim.

Coventry a aeth â hi o bedair gôl i un mewn brwydr arall tua’r brig, gyda Harry Wislon yn chwarae 90 munud i Fulham.

Sorba Thomas yw’r unig enw newydd yn y garfan genedlaethol a dathlodd ef hynny trwy greu dwy gôl ym muddugoliaeth ganol wythnos Huddersfield yn erbyn Blackburn. Chwaraeodd eto ddydd Sadwrn mewn gêm ddi sgôr yn erbyn Luton. Roedd Tom Lockyer yn nhîm y gwrthwynebwyr, yn rhan o amddiffyn a gadwodd eu hail lechen lân mewn wythnos ar ôl chwalu Coventry o bum gôl i ddim ganol wythnos.

Un arall a gafodd gêm dda ganol wythnos a oedd Brennan Johnson, yn sgorio un a chreu un wrth i Nottingham Forest drechu Barnsley. Dechreuodd eto ddydd Sadwrn wrth i’w dîm ennill o dair gôl i ddim ym Mirmingham.

Chwaraeodd Andy King y gêm gyfan wrth i Bristol City guro Peterborough o dair gôl i ddwy, canlyniad siomedig iawn i Dave Cornell yn y gôl i’r gwrthwynebwyr.

Roedd hi’n brynhawn siomedig i golwr arall o Gymru, Chris Maxwell, nid oherwydd iddo golli ac ildio llond trol o goliau ond gan iddo orfod gadael y cae gydag anaf ym muddugoliaeth ei dîm, Blackpool, yn erbyn Blackburn.

Chwaraeodd Tom Bradshaw yr ugain munud olaf wrth i Millwall ennill o gôl i ddim yn Barnsley, ble chwaraeodd Ben Williams y gêm gyfan i’r tîm cartref.

Mae Matthew Smith wedi bod yn chwarae’n rheolaidd ers ymuno â Hull ar fenthyg ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd wrth i’w dîm golli ym Middlesbrough ddydd Sadwrn.

 

*

 

Cynghreiriau is

Dychwelodd Chris Gunter i dîm Charlton wrth iddynt guro Fleetwood o ddwy gôl i un yn yr Adran Gyntaf ond nid oedd Adam Matthews yn y garfan.

Roedd buddugoliaeth swmpus i Joe Morrell gyda Portsmouth, yn curo Sunderland gartref o bedair gôl i ddim. Chwaraeodd Kieron Freeman y gêm i Pompey hefyd a daeth Louis Thompson ac Ellis Harrison oddi ar y fainc.

Daeth gêm y penwythnos yn Adams Park ble curodd Wycombe Morecambe o bedair gôl i dair. Sam Vokes a sgoriodd ail Wycombe a chic gornel Joe Jacobson a arweiniodd at y drydedd, a hynny ar ôl iddo sgorio ganol wythnos yn erbyn yr Amwythig. Ar y fainc yr oedd y golwr, Adam Przybek, ond Cymro a oedd rhwng y pyst i’r ymwelwyr o Swydd Gaerhirfryn, Kyle Letheren, fab Glan.

Cafodd Lee Evans gêm i’w chofio i Ipswich ganol wythnos, yn sgorio hatric o ganol cae mewn buddugoliaeth swmpus yn erbyn Doncaster. Creodd Wes Burns ddwy gôl yn y gêm honno hefyd ac roedd y ddau yn y tîm eto ar gyfer y golled yn erbyn Accrington ar y penwythnos.

Roedd Chris Norton yn eilydd hwyr wrth i Cheltenham golli yn erbyn Rotherham. Chwaraeodd Luke Jephcott yng ngêm gyfartal Plymouth yn Lincoln ac er i Regan Poole ddechrau i’r tîm cartref, cafodd ei eilyddio gydag anaf hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Mae Declan John yn ffit unwaith eto a dechreuodd ef gyda Gethin Jones a Jordan Williams wrth i Bolton guro’r Amwythig ddydd Sadwrn. Daeth Lloyd Isgrove a Josh Sheehan i’r cae fel eilyddion i Bolton ac roedd Charlie Caton ar y fainc i’r Amwythig.

Wigan sydd ar frig yr Adran Gyntaf yn dilyn buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn Gillingham ond bychan iawn a oedd cyfraniad Gwion Edwards, a ddaeth i’r cael fel eilydd ym munud olaf y naw deg.

Yn yr Ail Adran, cadwodd Tom King lechen lân wrth i Salford guro Colchester o ddwy gôl i ddim. Chwaraeodd Liam Shepphard yn yr amddiffyn tynn hwnnw hefyd yn ogystal â chreu un o goliau ei dîm yn y pen arall.

Ac ar ôl methu’r gêm ddiwethaf gyda cyfergyd, dychwelodd Jonny Williams i fainc Swindon y penwythnos hwn. Daeth i’r cae chwarter awr o ddiwedd y gêm yn erbyn Bristol Rovers gyda’r sgôr yn gyfartal, gôl yr un, ac aeth ei dîm ymlaen i ennill o dair i un.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Parhau y mae dechrau gwych Hearts i’r tymor yn Uwch Gynghrair yr Alban. Roeddynt ar frig y tabl dros nos ar ôl curo Motherwell o ddwy gôl i ddim ddydd Sadwrn. Dechreuodd Ben Woodburn ond cael ei eilyddio hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Tîm arall sydd yn cael dechrau da i’r tymor yw Dundee United, sydd yn eistedd yn bumed yn y tabl, uwch ben Celtic, yn dilyn buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Ross County. Roedd naw deg munud arall i Dylan Levitt sydd yn chwarae’n rheolaidd ar hyn o bryd. Chwaraeodd Alex Samuel ran helaeth o’r gêm i Ross County hefyd.

Ym Mhencampwriaeth yr Alban, mae Owain Fôn Williams a Dunfermline yn parhau i fod ar y gwaelod ar ôl colli o gôl i ddim yn erbyn Queen of the South.

Yn yr Eidal, roedd hi’n wythnos dda i Ethan Ampadu, a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Venezia fel eilydd yn erbyn Torino nos Lun cyn dechrau ei gêm gyntaf mewn gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Caligari nos Wener.

Nid oedd Aaron Ramsey yng ngharfan Juventus ar gyfer y gêm yn erbyn Chelsea yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos na’r gêm ddarbi yn erbyn Torino yn Serie A ddydd Sadwrn. Mae’r chwaraewr canol cae wedi ei enwi yng ngharfan Cymru ond amser a ddengys os fydd yn ymuno â hi.

Wrth gwrs, rydym eisoes yn gwybod na fydd Gareth Bale yn chwarae rhan yn nwy gêm nesaf Cymru felly yn naturiol, nid oedd yn rhan o garfan Real Madrid ar gyfer ymweliad Esplanyol ddydd Sul.

Dechreuodd Rabbi Matondo i Cercle Brugge yn erbyn Union Saint-Gilloise ddydd Sadwrn ond mae ei dîm yn aros yn ail o waelod prif adran Gwlad Belg ar ôl colli o dair gôl i ddim.

Cododd St. Pauli i frig y 2.Bundesliga gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Dynamo ddydd Sul ond dechrau ar y fainc a wnaeth amddiffynnwr canol Cymru, James Lawrence, am y drydedd gêm yn olynol. Chwaraeodd dri munud yn y diwedd ond ef, o bosib, yw un mwyaf ffodus i gadw ei le yng ngharfan Cymru ar draul Ben Cabango.