Mae’r Cymro Cymraeg Elfyn Evans wedi ennill rali’r Ffindir.

Dyma’r ail waith yn unig i yrrwr o wledydd Prydain ennill y ras, ar ôl Kris Meeke yn 2016.

Mae ei fuddugoliaeth yn cadw ei obeithion o gipio’r bencampwriaeth yn fyw.

Dechreuodd e’r penwythnos yn gadarn, gan fynd ar y blaen fore ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 2), ac fe gipiodd e’r fuddugoliaeth yn y pen draw o 14.1 eiliad.

Mae e wedi torri blaenoriaeth Sébastien Ogier yn y bencampwriaeth i 24 o bwyntiau gyda dwy ras yn weddill, gydag Ogier yn gorffen y ras hon yn bumed.

Ott Tänak oedd yn ail a Craig Breen yn drydydd, ac roedd 28.1 eiliad rhyngddyn nhw.

Roedd bonws i’r Cymro hefyd wrth iddo fe gipio’r pum pwynt ychwanegol, gyda Tänak yn cipio pedwar ac Esapekka Lappi yn cipio triphwynt.

Roedd dau bwynt i Takamoto Katsuta, ac un i Breen am orffen yn bumed.