Mae athletwyr o Ethiopia, Cenia a’r Swistir wedi dod i’r brig yn rasys marathon Llundain.
Roedd buddugoliaeth ddwbwl i’r Swistir yn rasys y cadeiriau olwyn, wrth i Marcel Hug ennill ras y dynion mewn 1:26:25, tra bod Manuela Schär wedi gorffen ras y menywod mewn 1:39:51.
Sisay Lemma o Ethiopia ddaeth i’r brig yn ras redeg y dynion, gan orffen mewn 2:04:01, sef y chweched amser cyflymaf erioed.
Joyciline Jepkosgei o Cenia enillodd ras redeg y merched, a hynny mewn 2:17:42, y seithfed amser cyflymaf erioed.
Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal yn llawn ers dros ddwy flynedd o ganlyniad i Covid-19.
Cafodd ras 2020 ei symud o Ebrill i Hydref, gyda dim ond athletwyr elit yn cymryd.
Cymerodd oddeutu 40,000 o gystadleuwyr ran yn y ras rhwng Blackheath a’r Mall.
Dau ddyn o Gymru yn y deg uchaf
Roedd dau Gymro ymhlith y deg uchaf yn ras y dynion.
Roedd Josh Griffiths o Abertawe’n wythfed, gan orffen mewn 2:13:39 ac roedd Andrew Davies o Ffordun, ond sy’n rhedeg yn Stockport, yn ddegfed gan orffen mewn 2:15:36.
Daw canlyniad Josh Griffiths flwyddyn ar ôl iddo redeg ei farathon Llundain cyflymaf mewn 2:13:11.