Mae Phil Parkinson, rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, wedi beirniadu staff Clwb Pêl-droed Aldershot ar ôl i’w gêm gael ei dirwyn i ben ar ôl 51 munud oherwydd glaw trwm ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 1).
Roedd ei dîm ar y blaen o 2-0 pan fu’n rhaid i’r chwaraewyr adael oherwydd fod y cae yn rhy wlyb i gael parhau i chwarae.
Aeth Wrecsam ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan rwydodd Jake Hyde oddi ar bàs Jordan Davies.
Cafodd Ben Tozer ei anafu’n ddifrifol bum munud cyn yr egwyl, a bu’n rhaid iddo adael y cae ar wastad ei gefn.
Dyblodd Wrecsam eu mantais ar ôl oedi hir i drin Tozer, wrth i Paul Mullin rwydo o’r smotyn ar ôl i Hyde gael ei lorio yn y cwrt cosbi.
Er mai Sunny yw enw cynta’r dyfarnwr Sunny Gill, doedd dim golwg o’r haul wrth i’r gêm ddod i ben – ond doedd Phil Parkinson ddim yn hapus ag ymdrechion y tirmyn.
“Allwn ni ddim gwneud unrhyw beth am yr amodau, ond byddwn i wedi hoffi gweld mwy o ymdrech hanner amser gan y tirmyn yn Aldershot i glirio’r dŵr oddi ar y cae,” meddai.
“Roedden nhw ar ei hôl hi o 2-0, doedd fawr o ymdrech yn mynd i fod i’w chael hi i barhau hyd yn oed pan wnaeth y dyfarnwr roi deg munud arall iddi, roedden ni’n chwilio am y tirmyn ond doedden nhw ddim i’w gweld yn unman.
“Roedd yn berfformiad rhagorol gennym yn yr hanner cyntaf.”