Mae Wayne Hatswell, rheolwr dros dro tîm pêl-droed Casnewydd, wedi talu teyrnged i Mike Flynn ar ôl i’r Alltudion guro Scunthorpe gartref o 3-0 yn eu gêm gyntaf ers ymadawiad y rheolwr.
Daeth pedair blynedd a hanner Flynn wrth y llyw yr wythnos hon, ac fe wnaeth Flynn ffarwelio â’r chwaraewyr ddydd Gwener (Hydref 1).
Doedd e ddim yn Rodney Parade i weld y tîm yn symud o fewn pwynt i’r safleoedd ail gyfle gyda’u buddugoliaeth fwyaf y tymor hwn.
Sgoriodd Ollie Cooper a Courtney Baker-Richardson eu goliau cyntaf i’r clwb cyn i Dom Telford ychwanegu’r drydedd gôl.
“Roedd y gôl gyntaf honno’n allweddol oherwydd fe wnaeth e eu rhoi nhw ar y droed ôl ac fe wnaeth i ni gredu bod angen i ni fynd yn ein blaenau i ennill y gêm,” meddai Wayne Hatswell.
“Fe wnaethon nhw chwarae’n broffesiynol ar ddiwedd yr hyn oedd wedi bod yn wythnos emosiynol. Doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd llai ganddyn nhw.
“Roedd y rheolwr ar goll ond doedd dim llawer o newid ac fe wnaethon ni geisio cadw pethau mor normal â phosib.
“Cawson ni’r fuddugoliaeth i’r rheolwr ac i bawb arall.
“Roedd e eisiau i ni ennill ac fe wnaeth e ddymuno pob lwc i fi.
“Dydych chi ddim yn mynd ar wyliau ac yn anghofio am y peth – fe wnaeth e roi tipyn o ymdrech i mewn i Gasnewydd.”