Mae Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn mynnu nad yw e wedi colli cefnogaeth y chwaraewyr ar ôl colled arall.

Aeth Reading adref â’r triphwynt ar ôl curo’r Adar Gleision o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 2) wrth i’r pwysau ar reolwr Caerdydd gynyddu.

Daeth unig gôl y gêm gan Junior Hoilett, cyn-chwaraewr Caerdydd wnaeth McCarthy ei ryddhau yn yr haf, wrth iddo rwydo am y tro cyntaf ers symud i’w glwb newydd.

Mae’r Adar Gleision bellach heb bwyntiau yn eu pum gêm ddiwethaf yn y gynghrair, ac wedi colli saith allan o’r wyth gêm ddiwethaf ar draws yr holl gystadlaethau.

Fe wnaeth y dorf ddangos eu dicter ar ôl y gêm ac mae dyfodol y rheolwr o Wyddel yn y fantol gyda’i dîm bellach yn ugeinfed yn y tabl.

‘Y perfformiad gorau ers wythnosau’

“Does gyda fi ddim syniad sut na wnaethon ni gael canlyniad oherwydd dyna’r perfformiad gorau gawson ni ers wythnosau,” meddai Mick McCarthy.

“Dw i’n hynod, hynod siomedig.

“Alla i ddim ond rheoli’r hyn dw i’n ei wneud ar y cae a’r hyn mae’r tîm yn ei wneud.

“Nid fy mhenderfyniad i yw hwnnw [am ei ddyfodol].

“Dw i’n credu bod y perfformiad yn sicr yn dangos nad ydw i wedi colli’r ystafell newid.

“Mae’n dangos y gallwn ni gael ymateb.

“Roedd y cefnogwyr yn wych.

“Roedd eu dicter nhw tuag ataf fi a dw i’n iawn gyda hynny.

“Roedden nhw’n haeddu rhywbeth allan o’r gêm honno gymaint ag yr oedden ni.”