Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e’n teimlo’n “rhwystredig iawn” ar ôl y gêm gyfartal ddi-sgôr yn Derby ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 2).

Cafodd yr Elyrch ddigon o gyfleoedd i sgorio, ond wnaethon nhw ddim manteisio o flaen y gôl, gan orfodi dim ond un arbediad o bwys gan y golwr Ryan Allsop.

Daeth yr ergyd honno ar ôl saith munud, pan darodd Joel Piroe ergyd isel o’r chwith, cyn i ymgais Korey Smith gael ei atal o ddeg llath.

Daeth cyfle’n hwyrach i Piroe a arweiniodd at gyfle i Derby ben draw’r cae wrth i Jason Knight ruthro ymlaen ar ôl 34 munud cyn iddo danio’i ergyd ar draws y cwrt chwech.

Daeth ergyd lwyddiannus gyntaf Derby ar y gôl ar ôl 51 munud, a daeth cyfle gwych i’r Cymro Tom Lawrence funud yn ddiweddarach wrth i Ben Hamer orfod gwneud cyfres o arbedion, un ar ôl y llall, i atal y gôl.

Fe wnaeth yr Elyrch wastraffu cyfle arall ar ôl 74 munud pan groesodd Jake Bidwell o’r chwith cyn i Allsop atal peniad gan Korey Smith.

‘Roedden ni’n haeddu ennill’

“Dw i’n teimlo’n rhwystredig, yn rhwystredig ar ran y bois,” meddai Russell Martin.

“Roedden ni’n haeddu ennill, fe wnaethon ni ddominyddu, cawson ni ddeg ergyd y tu fewn i’w cwrt cosbi nhw ac mae angen i hynny ddod mwy.

“Rydyn ni’n agos iawn at fod yn dîm da iawn, iawn.

“Cafodd Derby ganlyniad gwych yn ystod yr wythnos [curo Reading o 1-0] a wnaethon ni ddim gadael iddyn nhw chwarae o gwbl.

“Roedd egni, dwyster a rheolaeth wych gyda ni, ond mae angen i ni wneud mwy wrth ddominyddu.

“Fe wnaethon ni greu tipyn, cawson ni gyfleoedd da a rhaid i rywun ddod i fyny i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd.

“Dw i mor hapus gyda chymaint o bethau, ond yn rhwystredig ar ran y chwaraewyr a dw i’n meddwl eu bod nhw’n teimlo’r un fath.

“Fel dywedais i, rydyn ni’n agos iawn at fod yn dîm da dros ben, ac roedd cymaint am heddiw mor dda, ond mae’n rhaid i ni ennill y gêm pan ydyn ni’n dominyddu cymaint.”