Fe gurodd Scarlets Llanelli dîm Llewod De’r Affrig yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Wener o 36 i 13.

Sgoriodd y Scarlets eu cais cyntaf o fewn y pum munud cyntaf gyda Rob Evans a Sam Costelow yn trosi.

Cafodd y Llewod gic cosb ond wedi 20 munud roedd y Scarlets wedi cael trosgais arall drwy Tom Rogers a chic Costelow.

Bonws

Daeth dwy gic gosb arall i’r Scarlets cyn hanner amser ac un arall i’r Llewod o droed Jordan Hendrikse.

Y sgôr ar hanner amser oedd 20-6.

Ddaeth trosgais i’r Llewod trwy Ruben Schoeman a Hendrikse ar ddechrau’r ail hanner, ond fe wnaeth y Scarlets gadw ar y blaen gyda dwy gic gosb.

Sgoriodd y Scarlets ddau gais yn y 10 munud olaf – drwy Tom Rogers a gyda Steffan Evans yn sgorio eu pedwerydd cais a sicrhau pwynt bonws.