Mae Llafur wedi galw ar Gyngor Caerdydd i gymryd rhan mewn cynllun peilot a chyflwyno’r “cyflog byw go-iawn” i weithwyr gofal.

Ar hyn o bryd, mae’r cyflog byw go-iawn yn £9.50 yr awr, 59c yn fwy na’r isafswm cyflog presennol.

Fe wnaeth cynghorwyr Llafur basio cynnig yn ystod cyfarfod o’r cyngor ddydd Iau, 30 Medi, gan gefnogi’r peilot, fyddai’n debygol o fod angen cymorth a chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Ym mis Mehefin cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gyflwyno’r hyn maen nhw yn ei alw yn gyflog byw go-iawn i staff yn y sector gofal cymdeithasol.

Cyfrifir y cyflog byw go-iawn yn ôl costau byw, yn seiliedig ar fasged o nwyddau a gwasanaethau cartref y mae angen i bobl eu cael.

Ffrae

Ond arweiniodd y cynnig at ffrae ar sut i gefnogi pobl ar incwm isel yng Nghaerdydd, gyda’r Torïaid yn galw am rewi’r dreth gyngor a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dadlau dros incwm sylfaenol cyffredinol.

Dywedodd y Cynghorydd Llafur Lee Bridgeman, a gynigiodd y cynnig:

“Rwy’n drist ac yn ddig ein bod yn byw mewn cymdeithas lle mae anghydraddoldeb a diffyg cyfiawnder cymdeithasol yn normal i lawer o bobol ledled y Deyrnas Unedig.

“Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant a’m diolchgarwch i’r bobol hynny sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

“Mae eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod y pandemig hwn wedi bod yn ysbrydoledig iawn.

“Ond rhaid i ni beidio ag anghofio bod y bobl hyn wedi gorfod ymdopi â thoriadau difrifol i wasanaethau dros y blynyddoedd, ar ffurf toriadau ariannol tymor real, cyflogau isel iawn, contractau sero awr heb unrhyw sicrwydd swyddi o gwbl, sydd wedi arwain at brinder staff ar draws y sector.

“Yng Nghymru rwy’n falch o weld bod gennym lywodraeth sy’n cydnabod yr anghydraddoldebau hyn.

“Yn ôl Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr, lansiwyd ei phapur gwyn ar ail-gydbwyso gofal a chymorth yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i gyllid ychwanegol o £40 miliwn i awdurdodau lleol i helpu i ddarparu gofal cymdeithasol.

“Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i dalu’r cyflog byw go-iawn i bob gweithiwr gofal cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon.

“Mae’r cynnig hwn yn ymrwymo ein cyngor a’n cabinet i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddod yn ardal beilot ar gyfer y cyflog byw go iawn yng Nghaerdydd.”

Torri Credyd Cynhwysol

Fe wnaeth cynghorwyr Llafur hefyd feirniadu penderfyniadau diweddar gan lywodraeth San Steffan i godi Yswiriant Gwladol a rhoi terfyn ar y codiad dros dro o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol.

Dywedon nhw y byddai’r toriad i Gredyd Cynhwysol yn effeithio ar 31,000 o aelwydydd yng Nghaerdydd.

Roedd y cynnig hefyd yn cynnwys gofyn i arweinydd y cyngor, Huw Thomas, ysgrifennu at Boris Johnson yn annog ailfeddwl.

Mae disgwyl i dreth y cyngor yng Nghaerdydd godi pedwar y cant y flwyddyn nesaf, ar ôl codi 3.5 y cant eleni.

Ar hyn o bryd mae miloedd o bobl yng Nghaerdydd yn colli taliadau ar dreth y cyngor, ac ers mis Ebrill eleni mae’r cyngor wedi cyhoeddi 2,720 o wŷsiau llys am beidio â thalu treth y cyngor.

Mae sawl cwestiwn yn parhau ynghylch sut y byddai cynllun peilot cyflog byw go-iawn i weithwyr gofal yng Nghaerdydd yn gweithio mewn gwirionedd, o ran faint y byddai’n ei gostio a phryd y byddai’n dechrau.

Bydd mwy o fanylion am y goblygiadau ymarferol yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad cabinet yn ystod y misoedd nesaf.