Mae cyngor diogelwch yr heddlu i ferched yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard wedi cael ei gondemnio a’i alw yn “chwerthinllyd” a “ffiaidd”

Awgrymodd yr heddlu y dylai menywod geisio denu sylw gyrrwr bws, os ydyn nhw yn teimlo mewn perygl ym mhresenoldeb heddwas.

Cafodd cyngor arall – gan gynnwys gweiddi ar rywun, rhedeg i dŷ, curo ar ddrws, neu ffonio 999 – hefyd ei feirniadu’n hallt, gydag un Aelod Seneddol yn dweud ei fod yn “chwerthinllyd”.

Dywedodd Patsy Stevenson, gafodd ei harestio mewn gwylnos i Sarah Everard yn y dyddiau yn dilyn ei llofruddiaeth, bod y cyngor “bron yn chwerthinllyd os nad oedd mor ffiaidd”.

“Dw i ddim yn credu bod ganddyn nhw syniad, achos dyw’r cyngor ddim yn berthnasol,” meddai.

“Mae’n chwerthinllyd oherwydd, rhif un, yn y sefyllfa honno ni allwch stopio a denu sylw bws neu dacsi neu rywbeth.

“Allwch chi ddychmygu’r ddrwgdybiaeth sydd gan bobol ar hyn o bryd lle mae’n rhaid iddyn nhw amddiffyn eu hunain rhag yr heddlu yn y modd hwnnw?

“Mae hynny’n frawychus.”

“Ymddiriedaeth yn yr heddlu’r isaf mae erioed wedi bod”

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur Bell Ribeiro-Addy:

“Rydym am wybod beth mae [Heddlu’r] Met yn ei wneud i fynd i’r afael â’r problemau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn gyda thrais yn erbyn menywod o fewn yr heddlu.

“Mae’r cyngor hollol chwerthinllyd hwn yn dangos nad ydyn nhw’n ei gymryd o ddifrif o hyd.

“Ac maen nhw’n gofyn tybed pam fod ymddiriedaeth yn yr heddlu’r isaf mae erioed wedi bod?”

Pwysleisiodd y Met fod y cyngor wedi’i roi ar gyfer senarios penodol, a phrin, y gallai pobl eu cael eu hunain ynddynt.

Dywedodd y llu:

“Mae’n anarferol i un swyddog heddlu dillad plaen ymgysylltu ag unrhyw un yn Llundain.

“Os bydd hynny’n digwydd, a gall wneud am wahanol resymau, mewn achosion lle mae’r swyddog yn ceisio eich arestio, dylech wedyn ddisgwyl gweld swyddogion eraill yn cyrraedd yn fuan wedyn.

“Fodd bynnag, os nad yw hynny’n digwydd a’ch bod yn cael eich hun mewn sefyllfa gyda swyddog heddlu sydd ar ben ei hun, a’ch bod ar eich pen eich hun, mae’n gwbl resymol i chi geisio sicrwydd pellach o fwriadau’r swyddog hwnnw.”

Llofrudd dan glo am byth

Bydd yr heddwas Wayne Couzens yn treulio oes gyfan dan glo am herwgipio, treisio a llofruddio’r Sarah Everard, sy’n golygu na fydd byth yn cael ei ryddhau o’r carchar.

Mae’r Met wedi addo gwneud y strydoedd yn fwy diogel i ferched.

Bydd ymchwiliad i weld a wnaeth Wayne Couzens gyflawni mwy o droseddau cyn llofruddio Sarah Everard.

Addawodd y Met i beidio â defnyddio swyddogion dillad plaen ar eu pen eu hunain mwyach, ar ôl i Lys yr Old Bailey glywed fod Wayne Couzens wedi defnyddio rheolau cloi a dangos ei gerdyn gwarant i arestio Sarah Everard ar gam cyn ei llofruddio.

Dywedodd y Gweinidog Plismona Kit Malthouse y bydd yn rhaid i heddluoedd ar draws y wlad weithio’n “llawer caletach” i ennill ymddiriedaeth y cyhoedd yn ôl o ganlyniad i’r achos.