Mae gyrrwr wedi cael ei garcharu wedi iddo geisio rhoi’r bai ar bensiynwr am yrru ei gar ar gyflymder o dros 100 milltir yr awr.
Cafodd Harald Plumb, 61 oed o Lanelli, ei ddal yn dreifio 105 milltir yr awr ar yr M4 tua’r gorllewin rhwng cyffordd 48 a chylchfan Pont Abraham tua 12.45pm ar 26 Mawrth 2020.
Wedyn am tua 1.30pm, cafodd ei Mercedes ei ddal yn gwneud 92 milltir yr awr wrth fynd i’r cyfeiriad arall.
Anfonwyd hysbysiad o erlyniad ato ar 30 Mawrth, 2020, ac atebodd hwnnw gan ddweud mai dyn 70 oed o Abertawe oedd wedi bod yn gyrru’r Mercedes.
Pan gysylltodd Swyddfa Docynnau Cosb yr heddlu â’r dyn 70, anfonodd lythyr yn ôl yn dweud nad oedd yn adnabod y cerbyd nac yn deall pam fod ei fanylion wedi cael eu defnyddio.
Trosglwyddwyd y mater i ddwylo heddwas gan ei bod yn ymddangos bod y diffynnydd wedi enwi’r dyn ar gam i osgoi erlyniad, gan wyrdroi cwrs cyfiawnder cyhoeddus.
Parhau i ddweud celwydd
Yn ei gyfweliad cyntaf, cafodd Harold Plumb ei herio am y ffaith bod y dyn 70 oed yn gwadu gwybod unrhyw beth amdano ef a’i gerbyd.
Parhaodd y diffynnydd i ddweud celwydd a honnodd fod y dyn wedi cael mynd a’i gar am brawf y diwrnod hwnnw, gyda’r bwriad o’i brynu.
Ond bu i’r Glas edrych ar ddata ffôn y diffynnydd ar ddiwrnod y troseddau goryrru.
Daeth i’r amlwg bod ffôn symudol y diffynnydd yn trosglwyddo signal yn agos at leoliad gwreiddiol y troseddau goryrru.
Cafodd Harold Plumb ei gyfweld yam hyn ac unwaith eto nid oedd am gyfaddef i’r troseddau.
Rhoddwyd yr achos gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron a oedd yn gyfrifol am achosion o wyrdroi cwrs cyfiawnder cyhoeddus.
Plumb yn pledio’n euog
Yn Llys y Goron Abertawe’r wythnos hon (29 Medi) fe blediodd Harold Plumb yn euog, er iddo bledio’n ddieuog i ddechrau.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Thomas: “Mae [eich ymddygiad yn] taro wrth wraidd cyfiawnder ac yn tanseilio popeth.
“Mae angen i’r cyhoedd wybod beth sy’n digwydd i bobol sy’n gweithredu fel y gwnaethoch chi.”
Cafodd Harold Plumb ei garcharu am chwe mis a’i wahardd rhag gyrru am 15 mis.