Mae dyfodol iechyd a llesiant pobol yng Nghymru’n wynebu “her driphlyg” heb ei thebyg, meddai adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Edrychodd yr astudiaeth ar effeithiau Brexit, Covid-19 a newid hinsawdd ar fywydau pobol.
Daeth yr adroddiad i’r canfyddiad y gallai’r tri ffactor effeithio ar ddeiet, maeth, teithio actif, a faint o alcohol mae pobol yn ei yfed.
Gallai’r ffactorau arwain at gynnydd yn faint o alcohol mae pobol yn ei yfed, meddai’r adroddiad.
Fe wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd ragweld y gallai cyfnodau clo achosi i bobol yfed mwy – gan waethygu pa mor agored yw eu hiechyd i niwed, gwneud ymddygiad mentrus neu beryglus yn fwy tebygol, a chynyddu problemau iechyd meddwl a thrais.
Flwyddyn wedi’r cyfnod clo cyntaf, dywedodd 18% o’r rhai gymrodd ran yn yr ymchwil yng Nghymru eu bod nhw’n yfed mwy nag oedden nhw cyn y pandemig – byddai hynny yn gyfystyr â 445,000 o oedolion y wlad.
Mae cynnydd mewn tymheredd a thywydd eithafol poeth wedi cael ei gysylltu ag yfed mwy o alcohol ac iechyd gwaelach hefyd.
Gallai cytundebau masnach ar ôl Brexit effeithio ar allu Cymru i ddeddfu a rheoleiddio safonau labelu a chynnwys alcohol, bwyd a thobaco cryf.
Mae’r adroddiad yn awgrymu mai’r grwpiau a allai gael eu taro waethaf nawr ac yn y tymor hir yw pobol mewn cymunedau gwledig, pysgotwyr a ffermwyr, pobol ar incwm isel, a phlant a phobol ifanc.
“Perthynas gymhleth”
Dywedodd Liz Green, ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae pandemig y coranfeiwrs wedi dangos y berthynas gymhleth, blethedig rhwng iechyd, llesiant, anghydraddoldeb, yr economi, yr hinsawdd, a chymdeithas gyfan.
“Wrth wneud hynny, mae wedi creu anghydraddoldebau newydd, ond wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau sy’n bodoli’n barod hefyd.
“Mae digwyddiadau megis y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd a newid hinsawdd hefyd yn cael effaith gynyddol ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.
“Yn fyr, mae Cymru a’r Deyrnas Unedig yn wynebu ‘Her Driphlyg’ heb ei thebyg ac mae angen mynd i’r afael â hi mewn modd cydlynol – un sy’n ystyried dyfodol y blaned a’i phoblogaeth ac yn dod o hyd i ddatrysiadau i’r heriau llesiant ac economaidd sydd wedi’u hamlygu gan Brexit a Covid-19.”
Mae’r adroddiad yn dweud y gallai Brexit a’r pandemig gynrychioli cyfle i gefnogi “chwyldro diwydiannol gwyrdd”, “swyddi gwyrdd”, a mwy o swyddi i greu economi decach a mwy cynaliadwy yng Nghymru.
I fynd i’r afael â’r mater, mae’r adorddiad yn awgrymu y gallai gwneuthwyr polisi weithio gydag ymarferwyr iechyd cyhoeddus i leihau effaith cytundebau masnach ar iechyd y boblogaeth.
Bydd dau adroddiad arall yn cael eu cyhoeddi hefyd, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan edrych ar ddiogelwch bwyd a’r effaith ar gymunedau gwledig.