Mae’r diwydiant teithio yn wynebu “gaeaf caled”, ac mae perchennog un cwmni teithio’n dweud y gellir disgwyl y bydd “llwyth” yn colli’u gwaith yn y sector yn fuan.
Daeth y cynllun ffyrlo i ben yr wythnos hon, ac er bod rheolau teithio am lacio rywfaint fis yma, mae Ann Jones perchennog Teithiau Menai yn dweud bod hynny wedi dod yn rhy hwyr.
Mae’r gaeaf yn tueddu i fod yn ddistawach i gwmnïau teithio, gyda llai o bobol yn mynd ar eu gwyliau yr adeg yma o’r flwyddyn, ac yn ôl Ann Jones mae’n rhaid “dal yn dynn” dros y gaeaf.
Roedd hi wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ymestyn y cynllun ffyrlo nes tua mis Mawrth flwyddyn nesaf, er mwyn sicrhau bod arian i dalu staff nes hynny.
“I rywun mewn busnes fel dw i, dydi effaith y ffyrlo’n dod i ben ddim yn un da iawn achos dyda ni ddim wedi cael dim byd yn symud, dim pobol ar eu gwyliau, ers deunaw mis rŵan,” meddai Ann Jones, sy’n rhedeg Teithiau Menai yng Nghaernarfon ers pymtheg mlynedd.
“Wedyn does yna ddim arian wedi bod yn dod mewn i’r swyddfa, ac mae’r ffyrlo yn gorffen.
“Dw i angen dod â’r staff yn ôl, dw i ddim eisio’u colli nhw. Dw i ddim eisio iddyn nhw orfod mynd ar y dôl nag i chwilio am waith yn rhywle arall.
“Ond ar ôl hynny, tasa nhw’n mynd i rywle arall fyswn i byth yn gallu cael neb fel Sion a Sian yn ôl,” meddai gan ddweud bod Sian yno ers dros ugain mlynedd, a Sion gyda’r cwmni ers bron i bymtheg mlynedd.
“Maen nhw’n ‘nabod y busnes cystal ag ydw i, rydyn ni gyd fatha teulu bach yma.
“Mae [eu cyflogau] i gyd am orfod dod allan o ‘mhoced i tan mae pethau’n dechrau symud.”
“Rhy hwyr”
Oni bai am y cynllun ffyrlo, ni fyddai Ann Jones wedi gallu cadw’r staff, meddai, ac mae hi’n rhagweld y bydd gan ddiwedd y cynllun oblygiadau i’r sector.
“Mae’r rhan fwyaf o’r staff yn y travel industry wedi bod ar y ffyrlo, ac fe wnewch chi ffeindio allan y bydd yna lwyth yn colli’u gwaith drwy’r math o waith yma,” meddai Ann Jones.
“Dydi’r arian ddim yna i fedru talu i’w cael nhw’n ôl. Dw i wedi clywed am lot yn cael eu tynnu’n ôl wythnos nesaf ac ond yn dechrau ar un diwrnod yr wythnos.
“Mae hi yn dechrau, mwy o bobol yn holi i fynd. Mae hyder rhan fwyaf o bobol wedi cael ei effeithio, mae hynny’n mynd i gymryd amser i bawb gael yr hyder yn ôl i deithio.
“Ond wrth iddyn nhw ddod at rywun fel fi rydyn ni’n gobeithio rhoi’r hyder iddyn nhw, a rhoi nhw ar ben ffordd.”
‘Llacio am helpu’
“Mae’r Llywodraeth yn dechrau llacio ychydig bach ar bethau mae pobol yn gorfod ei wneud, felly mae hynny eto’n mynd i helpu ni,” meddai Ann Jones.
“Yr unig broblem ydi bod o wedi dod rhy hwyr yn y flwyddyn i ni, mae gennym ni aeaf caled rŵan o’n blaenau.
“Yn yr haf mae’r rhan fwyaf o bobol yn teithio, does yna ddim gymaint â hynny’n mynd dros y gaeaf.
“Y gwyliau ysgol nesaf mae rhywun yn feddwl amdano ydi Pasg nesaf, tan hynna… sit tight a hold fire. Jyst mynd drwy’r gaeaf rŵan, a gobeithio ddown ni allan yr ochr arall yn booming.”
Galw am gymorth
Bu Ann Jones yn ymgyrchu tu allan i San Steffan er mwyn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i helpu’r diwydiant teithio ac arbed swyddi.
“Rydyn ni wedi bod yn protestio, ‘sgwennu at Aelodau Seneddol, ond dim ymateb gan neb ohonyn nhw – fatha bangio dy ben yn erbyn drws a hwnnw wedi cau, a neb yn agor o i chdi,” ychwanegodd Ann Jones.
“Doedden ni ddim yn gofyn am y ffyrlo am hir eto, rydyn ni yn sylweddoli bod rhaid iddo fo ddod i ben yn y diwedd a bod rhaid i bobol ddechrau sefyll ar eu traed eu hunan.
“Ond maen nhw’n gwybod sut mae ein busnes ni’n rhedeg, maen nhw’n gwybod na fydd arian yn dod i mewn tan mae pobol yn cael dechrau teithio’n ôl.
“Tan hynny, doedden ni ond yn gofyn [am ffyrlo] tan tua mis Mawrth flwyddyn nesaf wedyn bod yna haf gwell o’n blaenau ni.”