Mae Torïaid yr Alban wedi galw am oedi cynllun pasbortau Covid y wlad, yn dilyn problemau technegol.

Cafodd yr ap ei ryddhau ychydig wedi 5 brynhawn ddoe (30 Medi), tua deuddeg awr cyn i’r rhaglen ddod i rym.

Ond yn ôl defnyddwyr, roedd nifer o broblemau wrth geisio cadarnhau eu hunaniaeth, sy’n golygu eu bod nhw yn methu dangos eu statws brechu.

Yn ôl Llywodraeth yr Alban, cafodd y problemau eu hachosi gan fod nifer uchel o bobol yn trio defnyddio’r ap yr un pryd.

Roedd Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, wedi galw am oedi, ac mae’n ailadrodd ei alwadau er mwyn osgoi’r hyn allai fod yn “benwythnos o ddryswch” wrth i glybiau nos a digwyddiadau mawr orfod dechrau defnyddio’r system basbortau.

Fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog Nicola Sturgeon na fydd gweithredu yn erbyn busnesau a lleoliadau cyn 18 Hydref er mwyn caniatáu i’r system ddechrau’n iawn.

Wrth siarad gyda Good Morning Scotland, dywedodd Dr Christine Tait-Burkard, abrenigwr mewn heintiadau ym Mhrifysgol Caeredin, y gallai’r cynllun pasbort covid “berswadio rhai pobol cyndyn” i gael eu brechu.

Er hynny, fe wnaeth hi gyfaddef ei bod hi wedi methu â chael yr ap newydd i weithio.

“Mae astudiaethau mwy ar deithio rhyngwladol yn dangos bod [tystiolaeth ynghylch brechu] yn cynyddu faint o bobol sy’n cymryd y brechlyn rhwng 5% a 10% yn y genhedlaeth iau, sef yn union beth rydyn ni ei angen.

“Ac yn Ffrainc, rydyn ni’n gweld mwy o fywyd dydd i ddydd yn cael ei gyfyngu gan yr angen am basbort brechu, ac mae hynny wedi cynyddu’r nifer sy’n derbyn y brechlyn yn amlwg.”

“Anhrefn”

Disgrifiodd Deon y Faculty of Advocates, Roddy Dunlop QC, yr ap “fel y gwaethaf dw i erioed wedi trio ei ddefnyddio”.

“Dw i ddim yn tueddu i or-ddweud. Dw i’n addo,” meddai ar Twitter.

“A dw i’n cydnabod ar unwaith fy mod i wedi argymell y dylid herio cyflwyno’r pasbortau Covid yn wreiddiol felly dw i ddim yn niwtral.

“Ond trïwch yr ap; edrychwch ar y sylwadau isod. Hwn yw’r ap gwaethaf dw i erioed wedi trio’i ddefnyddio, yn llythrennol.”

Dywedodd llefarydd iechyd y Blaid Lafur yn yr Alban, Jackie Baillie, bod y lansiad wedi bod yn “anhrefn llwyr”.

“Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â fi’n barod yn cwyno bod yr ap yn cau lawr.

“Mae’n typical bod yr SNP wedi rhuthro i gyflwyno hwn pan nad yw’n gweithio, yn amlwg.”

Wrth siarad am lansiad yr ap, dywedodd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, John Swinney: “Yn sgil dadansoddiad arbenigol ar iechyd cyhoeddus, rydyn ni’n gwybod bod rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal y cynnydd mewn achosion a lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae gan dystysgrifau brechu rôl i chwarae fel rhan o becyn ehangach o fesurau. Maen nhw’n ychwanegu haen arall o amddiffyniad mewn sefyllfaoedd penodol lle mae risg uwch.”