Bydd nifer y cynghorwyr ar Gyngor Gwynedd yn gostwng o 75 i 69, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth gweinidogion gymeradwyo awgrymiadau gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i leihau’r niferoedd, er gwaethaf gwrthwynebiad cynghorwyr yn y sir.
Bydd y cynllun yn golygu newid ffiniau wardiau, yn ogystal â chynyddu faint o wardiau sydd â mwy nag un aelod.
Dinas Bangor sydd am weld y mwyaf o newid, gyda wardiau Deiniol, Garth, Hendre, Hirael, Marchog a Menai yn cael eu cyfuno i greu dwy ward – ‘Canol Bangor’ a ‘Dwyrain Bangor’, a bydd y bobol yn y ddwy ward newydd yn ethol pedwar cynghorydd.
Mae’n debyg mai’r niferoedd isel o bobol sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y ddinas yw’r rheswm tu ôl i’r newidiadau hynny, ond roedd Cyngor Gwynedd yn annog y comisiwn i ailystyried cael gwared â ward Marchog, sy’n cynnwys ystâd dai ddifreintiedig Maesgeirchen.
Bu newid yn nifer y cynghorwyr mewn cynghorau sir cyfagos hefyd – gyda nifer y cynghorwyr ar Ynys Môn yn codi o 30 i 35, a Sir Conwy yn gweld gostyngiad o 59 i 55.
Newidiadau yn llawn
Ar gyrion y ddinas, fodd bynnag, bydd ward newydd ‘Y Faenol’ yn cael ei chreu allan o ran o ward bresennol Pentir.
Yn y cyfamser, bydd Dyffryn Ogwen yn colli adran bresennol Ogwen ond yn gweld creu wardiau newydd ‘Canol Bethesda’ a ‘Rachub.’
Ym Meirionnydd, bydd ward bresennol Llangelynnin yn colli Llanegryn ac yn cael ei ailenwi’n ‘Arthog a Llangelynin,’ gyda ward ‘Bro Dysynni’ newydd yn cael ei chreu yn cynnwys Llanegryn a Llanfihangel-y-Pennant.
Bydd ward dau-aelod yn cael ei sefydlu ar gyfer ‘Bethel a’r Felinheli’ a ‘Harlech a Llanbedr,’ gan ddisodli’r wardiau sengl blaenorol yn y ddwy ardal.
Yng Nghaernarfon, er y bydd ward dau-aelod Seiont yn diflannu, bydd pum cynghorydd y dref yn parhau oherwydd wardiau newydd ‘Canol Tref Caernarfon’ a ‘Hendre.’
Bydd Llanfrothen yn cael ei symud o ward Penrhyndeudraeth ac yn ymuno â ward newydd ‘Glaslyn,’ a fydd yn cynnwys pentref Tremadog.
Bydd Nebo hefyd yn cael ei dorri allan o ward Llanllyfni ac yn ymuno â Chlynnog, gan olygu y byddai’r adran newydd yn pontio ffiniau Seneddol presennol Arfon a Dwyfor Meirionnydd.
Yn y cyfamser, bydd Talysarn yn diflannu o’r map trwy ddod yn rhan o adran Llanllyfni, gyda wardiau presennol Morfa Nefyn a Tudweiliog hefyd yn uno.
Er bod y ddwy sedd ym Mhwllheli yn aros yr un fath, bydd Llŷn yn parhau i weld ei chynrychiolaeth yn cael ei thorri gydag Aberdaron a Botwnnog yn cael eu huno fel rhan o ward newydd ‘Pen draw Llŷn’, yn ogystal â Mynytho gyda Llanbedrog ac Abersoch gyda Llanengan.
“Mwy o gydraddoldeb”
Dywedodd Shereen Williams, Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ei bod hi’n “falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhellion hyn gyda mân addasiadau yn unig,”
“Bydd y newidiadau hyn yn golygu mwy o gydraddoldeb etholiadol i bobl Gwynedd,” meddai.
“Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr adolygiad, aelodau’r cyhoedd, cynghorwyr, Cyngor Gwynedd, a phawb arall a anfonodd gynrychiolaeth atom neu a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd arall.”
Bydd y newidiadau i gyd yn weithredol ar gyfer etholiadau lleol Mai 2022.