Mae llysgennad dros dro’r Unol Daleithiau wedi gofyn am gael ymweld ag Ynys Môn i edrych ar safle Wylfa Newydd, a hynny ar ôl cyfarfod ag Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie, yn ei gartref yr wythnos hon.
Aeth Virginia Crosby i Winfield House ym Mharc Regents – preswylfa swyddogol y llysgennad – er mwyn cyfarfod â Philip Reeker.
Yn ystod y sgwrs, gofynnodd a allai fynd i Fôn a gweld drosto’i hun pam bod Llywodraeth Prydain yn cefnogi adeiladu atomfa niwclear newydd yn yr Wylfa.
Mae Virginia Crosbie yn dweud bod y ddau wedi trafod pa mor bwysig ydi ynni niwclear i lefydd fel Ynys Môn, sydd angen swyddi yn dilyn degawdau o danfuddsoddi.
“Nifer o gwmnïau yn awyddus iawn i fuddsoddi yn Wylfa Newydd”
“Mae’n wybodaeth gyffredin bellach bod nifer o gwmnïau o’r Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn awyddus iawn i fuddsoddi mewn ynni niwclear yn Wylfa Newydd, ac rwyf eisoes wedi cwrdd â Bechtel, Westinghouse a Rolls-Royce ar Ynys Môn i ddangos iddynt beth sydd gan yr ynys wych hon i’w gynnig,” meddai Virginia Crosby.
“Felly, mae cael Llysgennad dros dro’r Unol Daleithiau yn awr yn gofyn am ymweliad yn hwb enfawr i’n hynys a’i photensial.
“Mae niwclear yn hanfodol i ddiogelwch ynni’r Deyrnas Unedig a’i huchelgeisiau carbon niwtral net.
“Wylfa Newydd yw’r safle gorau yn y Deyrnas Unedig er mwyn iddo ddigwydd, mae cwmnïau’r Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig am gymryd rhan a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gysoni hyn i gyd a sicrhau ei fod yn digwydd.
“Wrth gwrs, mae llawer i’w wneud a llawer i siarad amdano ond mae’r ewyllys yn amlwg yno ar ran y sector preifat a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac ni fyddaf yn rhoi’r gorau iddi nes bod Wylfa Newydd yn ôl fel prosiect.
“Byddaf mewn cysylltiad â’r llysgennad heddiw i ddod o hyd i ddyddiad.”