Fis yma fe fydd Cyngor Tref Dinbych yn cynnal pleidlais tros ddeuddydd ar ddyfodol un o gerfluniau mwyaf dadleuol Cymru, os nad gwledydd Prydain.

Ar 15 ac 16 Hydref bydd y cyngor tref yn holi barn y bobl am ddyfodol y cerflun o’r anturiaethwr HM Stanley yn Ninbych.

Mae’r cerflun o Henry Morton Stanley, a gafodd ei eni yn Ninbych yn 1841, wedi bod yn bwnc trafod ers iddo gael ei godi yn 2011.

Wedi gwrthdystiadau Black Lives Matter llynedd, ac wedi i gerflun o Edward Colston gael ei daflu i’r harbwr ym Mryste, bu galwadau i dynnu’r cerflun o HM Stanley lawr hefyd.

Y bleidlais

Ym Mehefin 2020 roedd Cyngor Tref Dinbych, a wnaeth gomisiynu’r cerflun o HM Stanley gan Nick Elphick, yn cyfarfod i drafod ei ddyfodol.

Pleidleisiodd yr aelodau o 6 i 5 o blaid i’w gadw, ond gyda’r bwriad o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i benderfynu ar ei ddyfodol maes o law.

Fe wnaeth y Maer ar y pryd, y Cynghorydd Gaynor Wood-Tickle, addo “pleidlais ddemocrataidd” i bobol Dinbych ac ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y mater.

Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal yn Neuadd y Dre Dinbych ddydd Gwener 15 Hydref o 10 y bore tan 7 yr hwyr, a dydd Sadwrn 16 Hydref rhwng 10 y bore ac 1 y prynhawn

Fe fydd peth gwybodaeth ynghylch HM Stanley a’r cerflun yn cael ei arddangos yno, gan gynnwys dadleuol yn erbyn ac o blaid tynnu’r cerflun lawr.

Bydd gan unrhyw un sy’n 16 oed neu hŷn, ac sy’n byw yn Ninbych, hawl i bleidleisio.

Mae gofyn i bobol ddangos dogfen neu gerdyn adnabod cyn pleidleisio, un gyda llun ohonyn nhw arno ac un gyda chyfeiriad.

Os oes unrhyw un yn adnabod rhywun a fyddai’n hoffi pleidleisio ond sydd methu mynd i Neuadd y Dref, mae’r Cyngor Tref yn dweud y gallen nhw ymweld â’u cartref er mwyn iddyn nhw bleidleisio ychydig ddyddiau o flaen llaw.

Wrth siarad gyda golwg360 ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd Dr Marian Gwyn ‘efallai mai’r lle gorau i gerflun HM Stanley fyddai mewn amgueddfa’.

Darlun o HM Stanley yn y Congo allan o’i lyfr, The Congo and the founding of its free state, a story of work and exploration (1885)

Dywedodd Dr Marian Gwyn, sy’n Ymgynghorydd Treftadaeth ac yn arbenigo ar gysylltiadau Cymru â chaethwasiaeth, ei bod hi’n meddwl fod Stanley yn ffigwr “dadleuol iawn”.

Yn ôl yr hanesydd, mae hi’n iawn cynnal ymgynghoriadau cyn tynnu cerfluniau dadleuol lawr, ond ei bod hi’n gweld y “rhan fwyaf ohonyn nhw’n cael eu tynnu lawr” yn y dyfodol.

HM Stanley

John Rowlands oedd enw gwreiddiol HM Stanley.

Cafodd ei eni yn Ninbych a threulio cyfnod yn Nhloty Llanelwy, cyn symud i America a newid ei enw i HM Stanley.

Yno, bu yn newyddiadurwr ac anturiaethwr, ond daeth yn unigolyn dadleuol oherwydd ei gysylltiad â brenin Gwlad Belg – Leopold III.

Bu’n gweithio i’r brenin yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, lle cafodd nifer o frodorion eu cam-drin a’u lladd.

Mae’r cerflun o HM Stanley yn ei ddangos yn cyfarch Dr Livingston, ac yn portreadu’r foment enwog pan ddywedodd y llinell enwog “Dr Livingstone, I presume?” pan ddaeth ar draws yr anturiaethwr yn nwyrain Affrica ym 1871.

‘Efallai mai’r lle gorau i gerflun HM Stanley fyddai mewn amgueddfa,’ medd un hanesydd

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol cerflun HM Stanley yn Ninbych yn cael ei gynnal yn yr hydref