Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol cerflun HM Stanley yn Ninbych yn cael ei gynnal yn yr hydref.

Mae’r cerflun o Henry Morton Stanley, a gafodd ei eni yn Ninbych ym 1841, wedi bod yn bwnc trafod ers iddo gael ei godi yn 2011.

Bu galwadau y llynedd, yn dilyn gwrthdystiadau Black Lives Matter ac wedi i gerflun Edward Colston gael ei daflu i’r harbwr ym Mryste, i dynnu’r cerflun o HM Stanley i lawr hefyd.

Mae’r hanesydd Dr Marian Gwyn, sy’n arbenigo ar gysylltiadau Cymru a chaethwasiaeth, wedi awgrymu y byddai amgueddfa, gyda phaneli dehongli a gwybodaeth am Stanley, yn well cartref iddo.

Roedd Dr Marian Gwyn yn un o aelodau’r gweithgor, dan arweiniad Gaynor Legall, a wnaeth edrych ar gerfluniau, enwau strydoedd, ac enwau adeiladau sy’n ymwneud â chaethwasiaeth.

Mae hi’n rhagweld y bydd rhan fwyaf o’r cerfluniau hyn yn cael eu tynnu lawr yn y dyfodol, ond mai’r peth gorau yw cynnal trafodaethau cyn gwneud hynny.

HM Stanley

Ym Mehefin 2020, fe wnaeth Cyngor Tref Dinbych, a wnaeth gomisiynu’r cerflun gan Nick Elphick, gynnal cyfarfod i drafod ei ddyfodol.

Pleidleisiodd yr aelodau o 6 i 5 o blaid ei gadw, ond i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i benderfynu ar ei ddyfodol.

Mae maer y dref, y Cynghorydd Rhys Thomas, bellach wedi cadarnhau y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn yr hydref.

Wedi’i eni gyda’r enw John Rowlands yn Ninbych a threulio cyfnod yn Nhloty Llanelwy, symudodd i America yn ei arddegau.

Yno, daeth yn newyddiadurwr ac anturiaethwr, ond daeth yn unigolyn dadleuol oherwydd ei gysylltiad â brenin Gwlad Belg – Leolpold III.

Bu’n gweithio i’r brenin yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, lle cafodd nifer o frodorion eu cam-drin a’u lladd.

“Ffigwr dadleuol iawn”

“Yn bersonol, dw i’n meddwl fod Stanley yn ffigwr dadleuol iawn. Fe wnaeth e wneud sawl camwedd gan ei fod e’n ddyn oedd â’i broblemau,” meddai Dr Marian Gwyn, sy’n gweithio fel Ymgynghorydd Treftadaeth, wrth golwg360.

“Mae e’n cael ei gyhuddo am sawl peth na wnaeth e ddim, a lot o gysylltiadau doedd ganddo ddim mohonyn nhw, ond hefyd roedd e’n ddyn oedd angen gwneud enw iddo ef ei hun.

“Fe aeth e i Affrica yn ymwybodol o angen penodol o wneud enw iddo’i hun.

“Gyda’r cerflun, mae e’n amlwg yn ddadleuol iawn yn lle mae e.

“Mae e’n newydd iawn, cafodd ei godi yn 2011, dw i’n synnu fod y cyngor wedi rhoi e fyny – hyd yn oed yn 2011 roedd e’n ffigwr dadleuol, yn enwedig gan nad oes dim dehongliad o’i amgylch, mae e just yn sefyll yno fel cerflun,” esboniodd.

“Does dim dehongliad o’i gwmpas sy’n esbonio unrhyw beth am ei stori.

“Efallai mai’r lle gorau iddo fo fyddai mewn amgueddfa, lle gallwch chi gael paneli dehongli’n esbonio.”

Eglurodd Dr Marian Gwyn ei bod hi mewn cysylltiad â grŵp o bobol o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo sy’n ymweld â’r cerflun yn flynyddol, er mwyn talu gwrogaeth iddo.

“Ond rhywbeth diddorol, gyda’r holl deimladau sydd gan nifer o bobol yng Nghymru amdano – y dylid tynnu’r cerflun lawr – dw i’n sgwrsio’n gyson gyda grŵp o bobol Congolaidd sy’n ymweld â cherflun Stanley bob blwyddyn er gwrogaeth iddo oherwydd eu bod nhw’n teimlo fod Stanley wedi agor rhannau o Affrica i fasnach, meddyginiaeth, a’i fod wedi torri gafael penaethiaid Affricanaidd oedd wedi atal cynnydd nes yr amser hynny,” meddai.

“Maen nhw’n gweld e o bersbectif gwahanol.

“Fe wnaeth e sgrifennu am stwff, er enghraifft, rydyn ni’n gwybod ei fod e wedi curo rhai o’i gludwyr. Ond fe wnaeth David Livingston hefyd. Dw i ddim yn ceisio ei amddiffyn e o gwbl, ond dw i just yn ceisio ei roi e mewn rhyw fath o bersbectif.”

Mae’r cerflun o HM Stanley yn dangos e’n cyfarch Dr Livingston, ac yn portreadu’r foment pan ddywedodd e’r llinell enwog “Dr Livingston, I presume?” pan ddaeth ar draws yr anturiaethwr yn nwyrain Affrica ym 1871.

“Mae e’n ddyn hynod ddadleuol, ond dw i’n meddwl, dan yr amgylchiadau presennol, ei bod hi fyny i bobol Dinbych eu hunain be maen nhw’n gwneud gyda’i gerflun,” meddai Dr Marian Gwyn.

“Ond dw i’n meddwl y dylai fod yna ryw fath o ddehongliad sy’n edrych ar y ddwy ochr ohono mewn amgueddfa.”

“Diffyg trafod”

“Dw i’n hoffi celf gyhoeddus,” meddai Dr Marian Gwyn wrth drafod cerfluniau’n fwy cyffredinol, “ac mae cerfluniau wedi cael eu lle eu hunain, ond dw i ddim cweit yn siŵr ein bod ni’n dathlu’r mathau iawn o bobol drwy’r amser,” meddai.

“Dw i’n meddwl fod lot o’r cerfluniau dadleuol nawr, doedd pobol ddim wir yn licio nhw yn y lle cyntaf.

“Os ydych chi’n edrych ar hanes Colston ym Mryste, cafodd y cerflun ei godi rhywbeth fel 150 mlynedd ar ôl iddo farw, ac fe wnaeth y pwyllgor oedd yn trio codi arian i dalu am y cerflun fethu casglu digon [o arian]. Roedd rhaid i’w cadeirydd dalu’r bil am y cerflun.

“Doedd yna ddim awydd am y cerflun yn y lle cyntaf. Gofynnwyd i’r Cyngor dro ar ôl tro i dynnu cerflun Colston lawr, a wnaethon nhw byth wrando, a dwi’n meddwl mai’r diffyg trafod parhaus yna [yw’r broblem].”

“I fi, gallai’r cerfluniau, os ydyn nhw’n cael eu gadael yn eu lle, fod yn gyfle gwych i drafod pethau,” ychwanegodd.

“Ond os ydi pobol yn teimlo y dylen nhw fynd, yna mae hynny’n iawn hefyd.

“Dw i ddim yn meddwl ei bod hi’n iawn, efallai, ein bod ni’n tynnu nhw lawr heb ryw fath o drafodaeth ar y funud – maen rhy gryf, mae’n bwynt rhy emosiynol.

“Ond yn y dyfodol, dw i’n gweld y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cael eu tynnu lawr.”