Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn treialu defnyddio tagiau alcohol yng Nghymru fel rhan o lu o fesurau newydd a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Prydain, Boris Johnson, gyda’r nod o atal trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Bydd y rhaglen beilot, sy’n ehangu ar raglen sydd wedi bodoli ers y llynedd, yn defnyddio tagiau sy’n canfod alcohol yn chwys troseddwyr sy’n euog o droseddau sy’n ymwneud â diod, wedi iddynt adael y carchar yng Nghymru.

Bydd troseddwyr sy’n cyflawni troseddau sydd wedi eu cymell gan alcohol yn cael eu gorchymyn i wisgo’r tag a fydd yn cymryd sampl o chwys bob 30 munud ac yn rhybuddio’r gwasanaeth prawf os bydd y troseddwr wedi yfed alcohol.

Ond mae Arfon Jones, cyn-gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, yn amheus ac yn dweud y dylai comisiynwyr graffu’n ofalus ar ganlyniadau’r treial pan ddaw i ben.

“Mi fyswn i’n disgwyl i gomisiynwyr Heddlu Cymru ofyn cwestiynau unwaith bod y treial yma yn dod i ben.

“Hoffwn i weld nhw’n craffu i weld a ydy o wedi gwneud mymryn o wahaniaeth – yn bersonol dwi’n eithaf sgeptigal y gneith o” meddai wrth Golwg360

Mynd at wraidd y troseddu

“Be mae pobl sy’n dod allan o’r carchar ei angen ydy cefnogaeth a chyfleodd gwaith… dim mwy o orfodaeth, gan eu bod wedi gwneud eu dedfryd a bod yn y carchar,” meddai Arfon Jones.

“Dw i’n meddwl fod pobl yn haeddu cael ail gyfle ac ar hyn o bryd rydan ni’n parhau i’w cosbi yn hytrach nag eu hadfer nhw.

“Mae’r busnes yma o gosbi pobl dro ar ôl tro yn anghywir ac mae angen edrych ar pam maen nhw’n troseddu yn y lle cyntaf.”

Eisoes mae dros 100 o droseddwyr wedi cael eu tagio ers i’r peilot gwreiddiol gael ei lansio yng Nghymru fis Hydref y llynedd.

Mae Llywodraeth Prydain yn honni fod y treialon wedi profi’n effeithiol, gyda throseddwyr yn aros yn sobr ar dros 95% o’r dyddiau maen nhw’n cael eu monitro.

Ond mae Arfon Jones yn cwestiynu a yw’r cynllun yn mynd i wraidd troseddau sy’n cael eu cymell gan alcohol.

“Lot o’r amser mae’r ffaith fod rhywun wedi bod yn yfed ac yn cyflawni trosedd [yn arwain] pobl i ystyried fod yna broblem alcohol [gyda’r person dan sylw] … ond dydy hynny ddim yn wir bob tro.

“Ac os alcohol yw’r broblem dydy tag ddim yn gwneud dim byd i wella’r broblem, dim ond adnabod bod rhywun wedi bod yn yfed yn hytrach na thrin y broblem sydd gyda nhw”.

Os oes lefel o alcohol yn cael ei ganfod yn chwys troseddwyr fe allant wynebu dedfrydau pellach neu ddirwyon.

“Stỳnt llywodraethol”

“Heb os, dyma stỳnt llywodraethol gan y llywodraeth i ddangos ei bod yn gwneud rhywbeth am droseddau yn hytrach na thaclo’r rhesymau pam y mae [pobl yn] troseddu,” meddai Arfon Jones.

Mae alcohol yn chwarae rhan mewn 39% o’r holl droseddau treisgar yn y Deyrnas Unedig, gan gostio £21.5 biliwn y flwyddyn.