Mae cwmni Wetherspoon wedi gwneud eu colled ariannol fwyaf erioed yn sgil cyfyngiadau Covid-19 ar y sector lletygarwch.

Ers i’r cwmni gael ei sefydlu 37 mlynedd yn ôl, maen nhw wedi gwneud colledion deirgwaith – yn 1984, 2020 a 2021.

Y deuddeg mis hyd at 25 Gorffennaf eleni oedd y rhai gwaethaf i’r cwmni, gyda cholled o £154.7 miliwn cyn ystyried trethi.

Bu gostyngiad o ran gwerthiant, lawr o £1.2 biliwn y llynedd i £772.6 miliwn eleni.

Dywedodd y sylfaenydd a’r cadeirydd Tim Martin ei fod yn parhau’n obeithiol am y dyfodol a bod cwsmeriaid yn dechrau dychwelyd ers i’r cyfyngiadau lacio dros yr haf.

Fodd bynnag, mae hi’n anodd llenwi swyddi gwag mewn rhai ardaloedd, meddai, yn enwedig mewn lleoliadau lle’r mae pobol yn tueddu i fynd ar eu gwyliau.

Fe wnaeth Tim Martin feirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y ffordd y gwnaethon nhw drin y sector lletygarwch yn ystod y pandemig, gan honni bod y defnydd o gyfyngiadau’r cyfnod clo yn “fygythiad i’r gymdeithas sifil a democratiaeth”.

Mae’r tafarndai sydd gan Wetherspoon mewn meysydd awyr dal yn llawer tawelach, gyda 47.3% yn llai o werthiannau yno o gymharu â chyn y pandemig.

“Gofalus obeithiol”

Mae’r cwmni’n ceisio llenwi swyddi gwag ar hyn o bryd, ac “ar gyfartaledd, mae Wetherspoon wedi derbyn nifer rhesymol o geisiadau ar gyfer swyddi gwag, fel sy’n cael ei awgrymu drwy’r cynnydd yn nifer y gweithwyr. Ond mae rhai ardaloedd o’r wlad, yn enwedig ardaloedd staycation yn y Gorllewin a llefydd eraill, wedi’i chael hi’n anodd denu staff,” meddai Tim Martin.

Fe wnaeth adroddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol awgrymu bod y lletygarwch yn cael trafferth llenwi swyddi mewn ardaloedd twristaidd oherwydd y cynnydd mewn prisiau tai a’r ffaith bod cyflogau yn y sector yn tueddu i fod yn isel, gan olygu bod staff yn cael trafferth byw yn agos at y swyddi.

“Yn ystod y pandemig, mae’r pwysau ar reolwyr tafarndai a staff wedi bod yn arbennig o anodd, gyda nifer o dafarndai yn genedlaethol ac yn rhanbarthol yn cau ac ailagor, yn aml gydag ychydig iawn o rybudd, i gyd yn arwain at reoliadau gwahanol,” meddai Tim Martin.

“Er gwaetha’r rhwystrau hyn, mae Wetherspoon yn ofalus obeithiol am ganlyniadau’r flwyddyn ariannol, ar y sail na fydd mwy o gyfyngiadau clo na chyfyngiadau trwm.”

Ni wnaeth Tim Martin, sy’n cefnogi Brexit, wneud sylwadau am y prinder gyrwyr lorïau na’i effeithiau ar Wetherspoon.

“Mae’r bygythiad mwyaf i’r diwydiant tafarndai, a hefyd ymysg pethau eraill, i fwytai, theatrau, sinemâu, cwmnïau hedfan a chwmnïau teithio, yn ymwneud â’r sail sydd wedi’i gosod gan y Llywodraeth i ddefnyddio cyfnodau clo a chyfyngiadau llym, wedi’u gweithredu dan bwerau brys,” meddai Tim Martin.

“Mae’r bygythiad hwn, sydd hefyd yn fygythiad i gymdeithas sifil a democratiaeth, wedi cael ei drafod yn gyson, gan gynnwys gan gyn-farnwr y Goruchaf Lys, yr Arglwydd Sumption.”