Bydd biliau ynni 15 miliwn o aelwydydd yn cynyddu o leiaf £139 o heddiw (1 Hydref) ymlaen dan gap prisiau diweddaraf y corff Ofgem.
Mae rheoleiddiwr y diwydiant ynni wedi dweud y bydd cwsmeriaid sydd ar dariffau rheolaidd ac yn talu drwy ddebyd uniongyrchol yn gweld y naid fwyaf mewn prisiau ers i’r cap gael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2019, gan olygu y bydd biliau ynni’n costio £1,277 ar gyfartaledd.
Bydd cwsmeriaid sy’n talu o flaen llaw yn gweld prisiau’n codi £153, o £1,156 i £1,309.
Mae’r cynnydd wedi’i achosi gan gynnydd o dros 50% yng nghostau ynni dros y chwe mis diwethaf, gyda nwy yn ddrytach nag erioed yn sgil cynnydd mewn chwyddiant wrth i reolau’r pandemig gael eu llacio, meddai Ofgem.
Fodd bynnag, cafodd y cap diweddaraf ei osod cyn cynnydd pellach mewn prisiau yn fyd-eang, sydd wedi arwain at naw cwmni cyflenwi ynni bach yn y Deyrnas Unedig yn mynd i’r wal ers dechrau mis Medi.
Dywedodd Cyngor ar Bopeth yr wythnos hon y gallai cwsmeriaid sy’n cael eu symud at gwmni ynni newydd ar ôl i’w cwmni nhw fynd i’r wal ddisgwyl talu bron i £30 yn fwy’r mis.
Bydd pobol yn wynebu “penderfyniadau anodd” dros y gaeaf, meddai Cyngor ar Bopeth.
Mae Ofgem yn adolygu’r cap ar brisiau bob chwe mis, ac yn ei newid yn dibynnu ar faint mae’n rhaid i’r cyflenwr ei dalu am eu hynni, costau polisïau a chostau gweithredu, ymysg pethau eraill.
Mae’r cwmni ymchwil Cornall Insight wedi rhagweld yn barod y bydd cap prisiau nesaf Ofgem yn cynyddu £178 ym mis Ebrill.
Daw hyn wedi i gostau nwy ar y farchnad gyfanwerthu gynyddu’n sydyn, gyda chynnydd o 70% ers mis Awst a chynnydd o £250 ers dechrau’r flwyddyn, yn ôl y corff Oil & Gas UK.
“Endemig”
Dywedodd prif weithredwr yr elusen tlodi tanwydd, National Energy Action, y bydd y cynnydd mewn prisiau ynni yn “gyrru dros 500,000 o gartrefi’n ychwanegol i dlodi tanwydd, gan adael nhw’n methu â chynhesu na phweru eu tai”.
“Ar yr union adeg pan maen nhw fwyaf ei angen, mae’r cynnydd i Gredyd Cynhwysol yn diflannu hefyd a chwyddiant yn cynyddu,” meddai Adam Scorer.
“Bydd y Gronfa Cefnogi Aelwydydd newydd yn cynnig peth cefnogaeth, fydd yn cael ei groesawu, i’r rhai sy’n gallu cael mynediad ati, ond dydi hynny ddim yn ddigon, ar ben ei hun, i atal y dirywiad mewn incymau nag i ymdopi â’r cynnydd mewn prisiau.
“Heb becyn cefnogaeth ehangach – cadw’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol a mwy o ad-daliadau i amddiffyn y rhai ar yr incymau isaf rhag prisiau ynni uchel – mae pobol agored i niwed mewn perygl enbyd o farw’n annhymig y gaeaf hwn.”
Mae’r End Poverty Coalition wedi rhybuddio y gallai tlodi tanwydd ddod yn “endemig” yn y Deyrnas Unedig, ac maen nhw wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu ar frys i osgoi argyfwng tlodi tanwydd dros y gaeaf.