Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i’w gwneud hi’n orfodol i ddysgu am hanesion a phrofiadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol mewn ysgolion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu bod dysgu am yr amrywiaeth mewn cymunedau, yn enwedig straeon pobol ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, yn rhan o’r canllawiau ar gyfer Cwricwlwm newydd Cymru.
Bydd y canllawiau terfynol yn cael eu harwyddo gan y Senedd fis nesaf, ond daw’r cyhoeddiad ar ddechrau Mis Hanes Pobol Dduon.
Mae disgwyl i’r cwricwlwm newydd ddod i rym fis Medi 2022, wedi blynyddoedd o waith datblygu gan athrawon a’r sector.
Bydd y cwricwlwm yn cynnwys chwe maes dysgu, sy’n cynnwys elfennau gorfodol o’r enw ‘Datganiadau o Beth sy’n bwysig’.
“Deall a pharchu”
Mae gwaith y grŵp yn cael ei gefnogi gan gyllid o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Jeremy Miles, ei bod hi’n “hanfodol bwysig” bod y system addysg yn galluogi pobol ifanc i “ddeall a pharchu eu hanes, eu diwylliannau a’u traddodiadau eu hunain a rhai pobol ifanc eraill”.
“Bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu i gyfoethogi’r cwricwlwm newydd, ac felly’r addysgu yng Nghymru am flynyddoedd i ddod,” meddai Jeremy Miles.
“Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn grymuso athrawon a lleoliadau addysg i gynllunio gwersi i ysbrydoli eu dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.
“Os ydyn ni am symud ymlaen fel cymdeithas, rhaid i ni greu system addysg sy’n ehangu ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth am y diwylliannau niferus sydd wedi creu gorffennol a phresennol Cymru a’r byd.”
“Stori ei phobol”
Mae undebau llafur wedi croesawu’r cyhoeddiad, gydag uwch-drefnydd undeb y GMB yn dweud ei fod yn “newyddion ardderchog bod y rhan hwn o hanes Cymreig yn cael ei gydnabod a’i roi ar y cwricwlwm o’r diwedd”.
“O undebau llafur i’r undeb rygbi, mae pobol ddu, Asiaidd a lleiafrifooedd ethnig wedi gwneud cyfraniad anhygoel i Gymru a’n ffurfio i fod y wlad wych ydyn ni heddiw,” meddai Mike Payne.
“Stori Cymru yw stori ei phobol, ac mae GMB yn falch o weld lleisiau du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn cael eu cydnabod a’u dysgu ar y cwricwlwm o’r diwedd.”
“Cymdeithas deg”
Dywedodd Kerina Hanson, llywydd undeb NAHT Cymru, bod “Cwricwlwm Cymru 2022 yn cynnig cyfle unigryw i ysgolion, nid yn unig i greu cwricwlwm unigryw yng nghyd-destun yr ysgol, ond i gydnabod y sefyllfa ehangach hefyd”.
“Mae’r pwyslais ar y ‘pedwar pwrpas’, gan gynnwys dysgu hanesion a phrofiadau pobol ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, yn sicrhau datblygiad ein plant a phobol ifanc fel dinasyddion moesol, gwybodus sydd wedi’u paratoi’n dda at y dyfodol.
“Gall hyn ond cefnogi’r sylweddoliad fod Cymru’n gymdeithas deg yn y dyfodol.”