Mae Heddlu’r Metropolitan yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod a oedd Wayne Couzens wedi cyflawni troseddau eraill cyn iddo gipio, treisio a llofruddio Sarah Everard.

Daw hyn wrth i Scotland Yard roi addewid i wneud y strydoedd yn fwy diogel i ferched a menywod. Mae yna alwadau ar Gomisiynydd Heddlu’r Met Cressida Dick i ymddiswyddo.

Mae uwch-swyddog gyda Heddlu’r Metropolitan wedi cyfaddef nad oedd gwiriadau i gyn-swyddog yr heddlu wedi eu gwneud yn “gywir” pan ymunodd a’r Met yn 2018. Cafodd Wayne Couzens ei gysylltu gyda digwyddiad o ddinoethiad anweddus mewn McDonald’s yn Swanley, Caint 72 awr yn unig cyn i Sarah Everard gael ei chipio ym mis Mawrth wrth iddi gerdded adref yn Llundain.

Cafodd Wayne Couzens, 48, ei garcharu am oes yn yr Old Bailey ddoe (dydd Iau, 30 Medi) gan yr Arglwydd Ustus Fulford, a ddywedodd bod ei droseddau wedi erydu hyder yn yr heddlu.

Mae Heddlu’r Metropolitan wedi cyhoeddi na fydd swyddogion mewn dillad arferol yn cael gweithio ar eu pen eu hunain ar ôl i’r gwrandawiad dedfrydu glywed bod Wayne Couzens wedi defnyddio rheolau’r cyfnod clo i arestio Sarah Everard drwy dwyll cyn ei chipio.

Mae’r llu hefyd wedi rhoi addewid i gyhoeddi strategaeth newydd i fynd i’r afael a thrais yn erbyn menywod a merched, gan amlinellu sut y bydd yn blaenoriaethu’r camau hynny yn erbyn troseddwyr treisgar.

Fe fydd 650 o swyddogion newydd ar batrôl mewn mannau prysur, gan gynnwys y llefydd hynny lle mae menywod a merched wedi dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel, meddai’r llu.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu’r Met, Syr Stephen House, wrth bwyllgor heddlu a throsedd Cynulliad Llundain ddydd Iau fod gweithredoedd Wayne Couzens “yn bradychu popeth yr ydym ni, mewn plismona, yn credu ynddo, popeth y mae’r Met yn sefyll drosto”, gan ychwanegu: “Roedd yn un ohonom ni ac mae angen i ni edrych arnom ein hunain yn ofalus iawn, iawn i ddeall sut y caniatawyd iddo fod yn un ohonom, a beth mae’n ei ddweud amdanom ni fel sefydliad ei fod e.”

Dywedodd fod yr achos wedi codi cwestiynau ynglŷn â  recriwtio a gwirio, gan ychwanegu: “Rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni weithio i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni hynny.”