Gallai cynhesu cyflym yn yr Arctig ledaenu gwastraff niwclear, feirysiau sydd heb eu darganfod eto, a chemegau peryglus, meddai adroddiad newydd.
Mae gan rew parhaol yr Arctig, sy’n dadmer yn gyflym, y potensial i ryddhau gwastraff ymbelydrol o longau tanfor ac adweithyddion niwclear y rhyfel oer, bacteria a feirysiau, meddai ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth.
Wrth ysgrifennu yn Nature Climate Change, ysgrifennodd Dr Arwyn Edwards, o Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Aberystwyth, bapur ymchwil ar y cyd ag academyddion o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau.
Mae rhew parhaol yn gorchuddio tua naw miliwn o filltiroedd sgwâr, ac mae mwyafrif rhew parhaol yr Arctig hyd at oddeutu miliwn o flynyddoedd oed.
Yn ogystal â microbau, mae ystod o gyfansoddion cemegol wedi bod yno dros filenia boed hynny drwy brosesau naturiol, damweiniau neu storfa fwriadol.
Mae’r rhew parhaol sy’n dadmer yn cael ei ystyried fel cyfrannwr tuag at allyriadau nwyon tŷ gwydr wrth i storfeydd enfawr o garbon pridd yr Arctig gael ei ryddhau i’r atmosffer fel carbon deuocsid a methan.
Gwastraff niwclear
Fodd bynnag, mae ymchwil Dr Arwyn Edwards yn nodi bod goblygiadau newidiadau yn yr Arctig yn llawer ehangach.
Mae gan hyn oblygiadau ar gyfer rhyddhau deunydd ymbelydrol posib wrth i hen ddeunydd o’r rhyfel oer ddadmer wrth i’r Arctig gynhesu.
Rhwng 1955 a 1990, cynhaliodd yr Undeb Sofietaidd 130 o brofion arfau niwclear yn yr atmosffer, ac yn agos at gefnfor archipelago Novaya Zemlya oddi ar arfordir gogledd orllewin Rwsia.
Cafodd dros gant o longau tanfor niwclear wedi’u digomisiynu eu suddo ym moroedd Kara a Barents gerllaw hefyd.
Er bod llywodraeth Rwsia wedi lansio cynllun glanhau strategol, mae’r adolygiad yn nodi bod profion yn yr ardal yn dangos lefelau uchel o sylweddau ymbelydrol.
Cynhyrchodd cyfleuster ymchwil yr Unol Daleithiau, Camp Century, wastraff niwclear a diesel sylweddol, ac roedd wedi’i leoli dan y rhew yn yr Ynys Las.
Pan gafodd ei ddadgomisiynu yn 1967, gadawyd gwastraff yn yr iâ.
Micro-organebau a chemegion
Rhew parhaol dwfn o fwy na thair metr yw un o’r ychydig amgylcheddau ar y Ddaear nad yw wedi bod yn agored i wrthfiotigau modern.
Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod mwy na 100 o ficro-organebau mewn rhew parhaol dwfn Siberia yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Wrth i’r rhew parhaol doddi, mae potensial i’r bacteria hyn gymysgu â dŵr a chreu mathau newydd o firysau sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Mae risg arall yn ymwneud â sgil-gynhyrchion tanwydd ffosil, sydd wedi’u cyflwyno i amgylcheddau rhew parhaol ers dechrau’r Chwyldro Diwydiannol.
Roedd yr Arctig hefyd yn cynnwys dyddodion metel naturiol, gan gynnwys arsenig, mercwri a nicel, sydd wedi cael eu cloddio ers degawdau ac sydd wedi achosi halogiad enfawr o ddeunydd gwastraff.
Mae llygryddion crynodiad uchel a chemegau sydd wedi cael eu storio yn y rhew, gan gynnwys DDT, mewn perygl o aildreiddio i’r atmosffer wrth iddo doddi, meddai’r adroddiad.
Mae llif dŵr cynyddol yn golygu y gall wasgaru’n eang, gan niweidio rhywogaethau anifeiliaid ac adar yn ogystal â mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol.
Er bod asesiadau risg presennol yn awgrymu’r potensial y bydd pobol yn amsugno’r cemegau hyn gydag amlygiad ac amser, mae’n debygol bod y risg wedi’i thanamcangyfrif.
“Goblygiadau newydd”
Mae angen ymchwil manwl pellach yn yr ardal er mwyn deall y risgiau yn well, ac i ddatblygu strategaethau lliniaru, meddai’r adroddiad.
“Bydd newidiadau yn hinsawdd ac ecoleg yr Arctig yn dylanwadu ar bob rhan o’r blaned wrth iddi fwydo carbon yn ôl i’r atmosffer a chodi lefelau’r môr,” meddai Dr Arwyn Edwards, Darllenydd mewn Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Mae’r adolygiad hwn yn nodi sut y gall risgiau eraill ddeillio o’r Arctig sy’n cynhesu. Mae wedi bod yn rhewgell ddofn ers amser maith ar gyfer ystod o bethau niweidiol, nid nwyon tŷ gwydr yn unig.
“Mae angen i ni ddeall mwy am dynged y microbau a’r llygryddion niweidiol hyn a deunyddiau niwclear er mwyn deall yn iawn y bygythiadau y gallen nhw eu peri.
“Mae’r rhain yn oblygiadau newydd ar ben yr hyn roedden ni’n gwybod a fyddai’n digwydd pe bai rhew parhaol yn parhau i doddi.
“Mae’n hanfodol bod uwchgynhadledd COP26 y mis nesaf yn gweithredu’n glir gan y dylai’r canfyddiadau hyn fod yn destun pryder i bawb.
“Yn ogystal â chyflawni targedau Cytundeb Paris a gostwng y cynnydd yn nhymheredd yr hinsawdd fyd-eang i 1.5 Celsius, mae angen ymrwymiad cryf ar unwaith i ariannu ymchwil yn y maes hwn.
“Yr hyn a ddylai ein poeni yw faint yn rhagor sydd angen i ni ddysgu am yr Arctig, pa mor bwysig yw hi i’n dyfodol ni gyd a pham ei bod yn werth ei gwarchod. ”
Ychwanegodd prif awdur yr adolygiad, Dr Kimberley Miner, Gwyddonydd Daear a Hinsawdd o Jet Propulsion Laboratory NASA: “Mae’n bwysig deall effeithiau eilaidd a thrydyddol y newidiadau hyn ar y Ddaear ar raddfa fawr fel dadmer rhew parhaol.
“Er bod rhai o’r peryglon sy’n gysylltiedig â dadmer hyd at filiwn o flynyddoedd o ddeunydd wedi’u cofnodi, rydym yn bell o allu modelu a rhagfynegi’n union pryd a ble y byddant yn digwydd. Mae’r ymchwil hwn yn hollbwysig.”