Mae cynllun mentora newydd wedi’i lansio heddiw er mwyn rhoi cyfle i weithwyr ym maes Cyfathrebu ddatblygu a dysgu gan rai arbenigwyr y maes.
Bydd 25 mentor yn cymryd rhan yn y cynllun gan SYLW, Cymuned Cyfathrebwyr Cymru, gan gynnwys Guto Harri, Ashok Ahir, Ian Gwyn Hughes ac Wynne Melvile Jones.
Mae’r tiwtoriaid hefyd yn cynnwys Catrin Taylor, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata Amgueddfa Cymru, Alun Jones, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol S4C, a Non Tudur Williams, Pennaeth Tîm Cyfathrebu Corfforaethol BBC Cymru.
Bydd tair sesiwn fentora dros Zoom yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd gyda’r mentor, a fydd yn rhannu eu harbenigedd.
“Fel cenedl mor huawdl gydag iaith a thraddodiad mor hynafol a hyblyg mi ddylem ni fod heb ein hail fel cyfathrebwyr,” meddai Guto Harri, un o’r mentoriaid fydd yn rhan o’r cynllun.
“Dwi’n edrych ymlaen i helpu SYLW feithrin cenhedlaeth o ymgynghorwyr fydd ar ben y byd.”
“Stôr o wybodaeth”
Cafodd SYLW ei lansio ym mis Mai gan Manon Wyn James a Gwenan Davies, wedi iddyn nhw weld bod galw am greu cymuned gwbl Gymreig i gyfathrebwyr.
Erbyn hyn, mae gan SYLW bron i 300 o aelodau ac maen nhw eisoes wedi cynnal cynhadledd rithiol a chyfres o sgyrsiau SYLW i glywed gan bobol sy’n gweithio yn y maes.
“Dyma gyfle gwych i’n haelodau allu manteisio, dysgu a datblygu eu gyrfaoedd gyda rhai o arbenigwyr mwya’r maes Cyfathrebu” meddai Manon Wyn James, sydd gan dros ugain mlynedd o brofiad yn y maes, ac sy’n gweithio fel Pennaeth Adran y Wasg S4C.
“Rydyn ni wedi sicrhau bod y cynllun yn cynnwys arbenigwyr sy’n cyffwrdd â phob agwedd o gyfathrebu – o gysylltiadau cyhoeddus, marchnata, digwyddiadau, i’r cyfryngau cymdeithasol. Mae gan ein harbenigwyr stôr o wybodaeth a phrofiad.”
“Dyma’r cynllun mentora Cymraeg cyntaf o’i fath i gyfathrebwyr, ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim,” ychwanegodd Gwenan Davies, sy’n arbenigo yn y Gymraeg yn y sector gyhoeddus, a bu’n gweithio ar gynlluniau hyrwyddo’r Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda am nifer o flynyddoedd cyn symud i Adran Farchnata’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Mae Cyfathrebu yn faes sy’n tyfu a datblygu drwy’r amser, dyma’r cyfle perffaith felly i gael cyngor arbenigol a gwneud cysylltiadau gyda rhai o arbenigwyr Cyfathrebu gorau Cymru. Ewch amdani!”