Mae cyfraith newydd ar labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu yn dod i rym heddiw (1 Hydref).

Dan y gyfraith newydd, Cyfraith Natasha, mae hi’n ofynnol i fusnesau labelu pob bwyd sydd wedi’i becynnu ymlaen llaw er mwyn ei werthu gyda rhestr gynhwysion lawn, gyda’r 14 prif alergen wedi’u pwysleisio.

Daw’r gyfraith i rym wedi marwolaeth Natasha Ednan-Laperouse, a fu farw ar ôl bwyta baguette o Pret à Manger wedi’i phecynnu ymlaen llaw yn 2016.

Ar y pryd, doedd dim rhaid cynnwys label gyda’r holl gynhwysion.

Bydd rhaid labelu brechdanau wedi’u pecynnu o flaen llaw, bwyd brys sydd eisoes mewn pecynnau cyn i gwsmer ei archebu, ac eitemau mewn archfarchnadoedd megis cawsiau a chig o’r cownter deli sydd wedi’u pecynnu ac yn barod i’w gweini.

Mae’r gyfraith newydd yn berthnasol i fwydydd sydd wedi’u pecynnu ar yr un safle ac y cânt eu gwerthu cyn iddynt gael eu harchebu; mae bwydydd a gafodd eu pecynnu ymlaen llaw rywle arall eisoes yn gorfod cynnwys labelu cynhwysion llawn, gydag alergenau wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno.

“Cam enfawr”

Dywedodd Emily Miles, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd, bod hwn yn “gam enfawr ymlaen wrth helpu i well ansawdd bywyd y tua 2 filiwn o bobol yn y wlad hon [y Deyrnas Unedig] sydd ag alergeddau bwyd”.

“Os bydd y newidiadau hyn yn lleihau nifer y derbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i alergeddau bwyd, sydd wedi treblu dros yr ugain mlynedd diwethaf, gan atal marwolaethau trasig eraill fel un Natasha, gall hynny ond bod yn beth cadarnhaol.

“Rwy’n deall pa mor anodd y bu’r 18 mis diwethaf i fusnesau bwyd, ac rwy’n ddiolchgar am yr ymdrech y mae cynifer ohonoch chi wedi’i gwneud i baratoi at y newidiadau.”

“Chwerwfelys”

Dywedodd rhieni Natasha Ednan-Laperouse, Nadim a Tanya Ednan-Laperouse, bod cyflwyno’r gyfraith yn “foment chwerwfelys” iddyn nhw.

“Rydyn ni’n falch iawn y bydd pobl ag alergeddau bwyd bellach yn cael eu diogelu trwy well labelu, ac yn ein calonnau, rydym ni’n gwybod y byddai Natasha’n falch iawn o’r gyfraith newydd hon yn ei henw.

“Fodd bynnag, mae’r gyfraith newydd hefyd yn ein hatgoffa y gellid bod wedi osgoi marwolaeth Natasha.

“Mae Cyfraith Natasha yn ymwneud ag achub bywydau, ac mae’n garreg filltir bwysig yn ein hymgyrch i gefnogi pobl yn y wlad hon ag alergeddau bwyd.

“Bydd y newid hwn i’r gyfraith yn rhoi hyder i bobl ag alergeddau wrth iddynt brynu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol, fel brechdanau a salad. Dylai pawb allu bwyta bwyd yn ddiogel.”