Mae’r Athro Charlotte Williams wedi’i phenodi’n gadeirydd gweithgor newydd i edrych ar gyfraniad pobol dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’u rhan yn y cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Cafodd ei gwahodd i gadeirio’r gweithgor gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, i gadeirio’r gweithgor fydd yn rhoi sylw arbennig i ‘Gymunedau, cyfraniadau a chynefin: Profiadau pobol dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r cwricwlwm newydd’.

Yn 2007, derbyniodd hi OBE am ei gwasanaeth i leiafrifoedd ethnig a chyfle cyfartal yng Nghymru.

Bydd y gweithgor yn cyflwyno ei ganfyddiadau cychwynnol yn yr hydref, ac adroddiad llawn yn y gwanwyn.

“Dw i wrth fy modd yn cael arwain y gweithgor, ac mae’n anrhydedd i mi gael gwneud, er mwyn hyrwyddo’r newid hwn i wneud hanes, hunaniaeth a diwylliant pobol dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn rhan o broses ddysgu bob dydd pob plentyn yng Nghymru,” meddai.

“Y nod yw bod y cwricwlwm newydd yn esiampl ddisglair o sut y gellir hwyluso dysgu ac addysgu ynghylch ystod eang o gyfraniadau pobol dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ddoe a heddiw, gan ddarparu’r adnoddau angenrheidiol.

“Yr her yw sicrhau bod presenoldeb gan bobol dduon a lleiafrifoedd ethnig ym mhob rhan o gwricwlwm newydd Cymru, fel bod modd i ni glywed eu lleisiau, a gwybod am eu profiadau, eu hanes a’u cyfraniadau, ddoe a heddiw, ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad.

“Mae hyn yn galw am adnoddau priodol, gan ein bod am i holl athrawon Cymru allu ailystyried eu deunyddiau a theimlo’n hyderus o ran sut i’w cyflwyno er mwyn sicrhau’r presenoldeb hwn.

“Mae’n nod cyffrous iawn.

“Yn y pen draw, bydd ein cwricwlwm yng Nghymru yn adlewyrchu ein profiad cyffredin o gymdeithas amlddiwylliannol gynhwysol, egnïol.

“Mae gyda ni hanes cyfoethog yng Nghymru, a adeiladwyd ar sail gwahaniaeth ac amrywiaeth.

“Nid mater o ychwanegu elfen o hanes pobol dduon a lleiafrifoedd ethnig yma ac acw yn y cwricwlwm newydd yw hyn, ond ailddychmygu dysgu ac addysgu holl elfennau’r cwricwlwm mewn ffordd sy’n adlewyrchu Cymru sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd, yn rhyngwladol o ran ei bydolwg, ac yn flaengar o ran ei dyheadau – rhywbeth sydd wedi bod yn wir erioed.”

‘Ein hamrywiaeth yw un o’n cryfderau fel cenedl’

“Ein hamrywiaeth yw un o’n cryfderau fel cenedl, ac mae ein hanesion lu wedi cyfuno i greu Cymru heddiw,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.

“Dw i wrth fy modd y bydd yr Athro Williams yn arwain y gwaith pwysig hwn, ac edrychaf ymlaen at weld argymhellion y grŵp.”

Dywed yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ei bod hi’n “falch iawn” yn sgil y penodiad.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld argymhellion y grŵp ynghylch adnoddau dysgu i gefnogi’r gwaith o addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau, cynefinoedd a chyfraniadau pobol dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig,” meddai.

“Mae stori Cymru yn gyfuniad o liaws o straeon.

“Rhaid i ni ddeall a dadansoddi ein cynefin ein hunain, a gwneud y cysylltiadau hynny ar draws ein cymunedau, ein cenedl a’r byd.

“Nid mater o ystyried hanes fel pwnc yw hyn. Mae’n fater o iaith, llenyddiaeth, daearyddiaeth a chymaint mwy.”