Bydd angen i bobol ffonio cyn mynd i unedau brys ysbytai Cymru gan fod gwasanaethau argyfwng yn cael eu hailfodelu i ymateb i’r coronafeirws, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething.

Bydd y gwasanaeth dosbarthu dros y ffôn yn cyfeirio pobol at y gwasanaeth cywir ar gyfer eu cyflwr neu anaf yn lle bod pawb yn mynd i uned frys yn awtomatig i geisio gofal.

Mae’r newidiadau, a fydd yn cael eu treialu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi’u seilio ar gynllun llwyddiannus o wledydd Llychlyn, ac yn rhan o ddull newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal diogel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ôl Llywodraeth Cymru.

Fydd gwasanaeth brys 999 ddim yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.

Addasu

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi gorfod addasu’n gyflym i ymateb i’r pandemig, a hynny wrth gadw staff a chleifion yn ddiogel a pharhau i ddarparu’r gwasanaethau gofal brys ac argyfwng y mae eu hangen ar bobl,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Rydyn ni wedi edrych yn ofalus iawn ar sut mae pobl yn cael gafael ar wasanaethau gofal brys ac argyfwng, mewn ymateb i’r risgiau a’r cyfyngiadau sydd wedi dod yn sgil y pandemig.

“Bu gostyngiad sydyn yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn nifer y bobl a aeth i adrannau argyfwng, a gwelwyd cynnydd mawr yn y nifer sy’n cael cymorth a chyngor o bell drwy’r Gwasanaeth Iechyd 111 a gwasanaethau ar-lein.

“Wrth i bresenoldeb ddechrau dychwelyd i lefelau mwy ‘normal’, mae’r newidiadau hyn o ran sut mae pobl wedi bod yn cael mynediad at wasanaethau dros yr wythnosau diwethaf yn rhywbeth y mae clinigwyr blaenllaw yn dweud y mae’n rhaid ei gynnal.”

Tystiolaeth

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae tystiolaeth yn awgrymu nad oes angen y gofal arbenigol sy’n cael ei ddarparu gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd yn yr unedau hyn ar gyfran o’r bobol sy’n mynd i adrannau brys, a byddan nhw’n elwa naill ai ar hunanofal neu ar gael cyngor, iechyd neu ofal cymdeithasol mewn rhannau eraill o’r system.

Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg hefyd fod y gostyngiad yn nifer y cleifion a ddaeth i adrannau brys dros gyfnod y pandemig yn ymwneud yn bennaf â chleifion ‘risg is’, lle y byddai gael cyngor neu ofal yn rhywle arall wedi bod o fudd i brofiad a chanlyniadau cleifion.

Yn y mis diwethaf, wrth i nifer gynyddol o bobol geisio triniaeth yn yr adrannau brys – gan ddychwelyd i’r ‘ystod arferol’ o weithgarwch – mae rhai byrddau iechyd wedi rhoi gwybod am giwiau o gleifion y tu allan i adrannau oherwydd bod llai o le o fewn yr adran i atal lledaeniad y coronafeirws.

Mae Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM) a Choleg Brenhinol y Meddygon wedi mynegi pryder ynghylch diogelwch pobol a staff pe bai adrannau argyfwng yn mynd yn orlawn.

Dull newydd

Mae dull newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sef gwasanaeth ffôn CAV 24/7, wedi’i gynllunio i helpu pobol sydd angen gofal brys i gael mynediad at y cyngor neu’r driniaeth gywir yn y lle iawn, ac fe fydd yn cael ei lansio fis nesaf.

Bydd pobol sy’n galw’r gwasanaeth yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion.

Gallai hyn olygu y bydd pobol yn cael eu hannog i ofalu amdanyn nhw eu hunain neu’n cael eu cyfeirio at wasanaeth mwy priodol yn eu cymuned leol neu’n cael apwyntiad personol mewn canolfan gofal brys neu uned frys.

“Rydym yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed gan y cyhoedd i ddefnyddio gwasanaethau gofal argyfwng yn synhwyrol yn ystod y pandemig ac yn diolch iddyn nhw am hyn,” meddai Dr Jo Mower, cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol gofal heb ei drefnu ac is-lywydd RCEM.

“Er hynny, mae’n rhaid inni ddysgu byw ochr yn ochr â’r coronafeirws ac nid ydym am weld gorlenwi a gorfod aros yn hir am wely eto yn ein hadrannau achosion brys.

“Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld yn y lle iawn, a gallai hyn fod yn y gymuned, a chan y clinigydd iawn, y tro cyntaf.”