“Dylai plant Blaenau Gwent gael eu haddysgu ym Mlaenau Gwent”.

Dyna oedd geiriau aelod o’r cyngor lleol yr wythnos hon, wrth i ofnau gael eu codi fod myfyrwyr hŷn nag 16 oed yn gadael Blaenau Gwent i barhau â’u haddysg mewn mannau eraill.

Mewn cyfarfod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddydd Iau (30 Medi) trafododd cynghorwyr adroddiad perfformiad asesu blynyddol y cyngor ar gyfer 2020/21, pan gododd materion yn ymwneud ag addysg.

Y Parth Dysgu yng Nglyn Ebwy yw’r unig sefydliad addysg bellach ym Mlaenau Gwent, ac mae’n cael ei redeg gan Goleg Gwent.

Dywedodd y Cynghorydd John C Morgan: “Mae rhai ohonom yn pryderu am berfformiad y Parth Dysgu ac am y gostyngiad yn nifer y plant sy’n mynd i’r parth i wneud arholiadau Safon Uwch yn dilyn TGAU.

“Rydym am i bob plentyn gael ei addysgu yma gymaint â phosibl, dylai plant Blaenau Gwent gael eu haddysg ym Mlaenau Gwent.”

Credai fod hyd at 150 o bobol ifanc wedi gadael y sir ar gyfer sefydliadau addysg eraill.

Tynnodd sylw at y ffaith bod llawer o’r plant hyn wedi dewis mynd i’r coleg ym Merthyr Tudful neu fynychu’r chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Crughywel ym Mhowys.

“Mwy o ddysgwyr ôl-16 nag o’r blaen”

Dywedodd cyfarwyddwr addysg y Parth Dysgu, Lynn Phillips: “Wrth edrych ar y data, mae perfformiad y Parth Dysgu yn galonogol ar gyfer Safon Uwch.

“O raddau A* i E roedd ganddynt gyfradd basio o 99 y cant sy’n cyd-fynd â’r cyfartaledd cenedlaethol.

“Un o’r rhesymau dros y Parth Dysgu oedd creu cydbwysedd rhwng cyfleoedd dysgu academaidd a galwedigaethol a pharch cyfartal.

“Maen nhw’n dal eu safbwynt ar faint o gymwysterau Safon Uwch ond mae maint y dysgu galwedigaethol yn cynyddu hefyd, felly mae ganddynt fwy o ddysgwyr ôl-16 nag o’r blaen.

“Mae yna broblemau lle bydd dysgwyr a rhieni yn penderfynu pa sefydliad y maent am gael eu haddysgu ynddo o safbwynt ôl-16, a dyna eu dewis nhw.”

Yn ôl Lynn Phillips mae trafodaethau’n cael eu cynnal rhwng yr awdurdod, penaethiaid a Choleg Gwent i “nodi” pam fod rhai wedi dewis peidio mynd i’r Parth Dysgu.

Ychwanegodd fod derbyniadau ym Mlwyddyn 7 wedi codi a bod hyn yn brawf bod rhieni “yn dewis ein hysgolion uwchradd”.