Mae Tegid Phillips, cyn-ddisgybl Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd, wedi llofnodi cytundeb newydd gyda Chlwb Criced Morgannwg.
Mae e wedi llofnodi cytundeb ieuenctid (rookie) am flwyddyn.
Daeth y chwaraewr 19 oed drwy rengoedd Academi’r sir gan ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn yr Academi y tymor hwn yn sgil ei berfformiadau i ail dîm Morgannwg ac i Sir Genedlaethol Cymru.
Cipiodd e dair wiced am 39 yn erbyn Berkshire yn rownd gyn-derfynol Tlws y Siroedd Cenedlaethol a chwe wiced am 56 yn erbyn Swydd Northampton ym Mhencampwriaeth yr Ail Dîm yng Nghasnewydd.
“Mae Tegid yn droellwr dawnus iawn sydd wedi perfformio’n dda ar bob lefel mae e wedi chwarae y tymor hwn,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Mae e’n troelli’r bêl yn galed ac mae e’n sicr yn un at y dyfodol.”
Andy Gorvin
Mae’r bowliwr Andy Gorvin hefyd wedi llofnodi cytundeb proffesiynol am dymor arall.
Ymunodd e â’r sir ar gytundeb byr am fis y tymor hwn, gan chwarae pedair gêm undydd Rhestr A yng Nghwpan Royal London, wrth i Forgannwg ennill y gystadleuaeth.
Daeth y chwaraewr 24 oed drwy rengoedd Prifysgolion Caerdydd ac mae e wedi chwarae i Sir Genedlaethol Cymru.
Mae e’n gapten ar glwb Sain Ffagan yn Uwch Gynghrair De Cymru.
“Dw i wedi cael blwyddyn dda yn yr ail dîm ac fe wnes i fwynhau bod yn rhan o’r garfan undydd, felly mae’n wych cael bod yn broffesiynol yn llawn amser,” meddai.
“Pan ddechreuais i’r tymor, dyna’r nod yn y pen draw a dw i’n edrych ymlaen at aeaf da a mynd â hynny i mewn i haf nesaf.
“Mae gyda fi gryn dipyn o waith caled i’w wneud a gobeithio, os caf fi’r cyfle y tymor nesaf, y bydda i’n ei gymryd.”
Yn ôl Mark Wallace, mae e’n “haeddu ei gyfle” yn y gêm broffesiynol.