Mae chwaraewr canol cae ymosodol Caerdydd, Lee Tomlin, wedi gadael y clwb.

Daw hyn yn dilyn trafodaethau lle cytunodd y chwaraewr a’r clwb y byddai’n well pe bai’n gadael.

Roedd y gŵr 32 oed yn chwaraewr allweddol i Gaerdydd am gyfnod ac ef oedd hwb creadigol y tîm yn nhymor 2019-20, gan sgorio wyth gôl a chreu 10 arall wrth i’r Adar Gleision gyrraedd gêmau ail-gyfle’r Bencampwriaeth.

Trafodaethau

Ond mae anafiadau’n golygu nad yw wedi chwarae ers mis Hydref 2020.

Dim ond pum ymddangosiad a wnaeth y tymor diwethaf ac nid yw wedi chwarae o gwbl yn yr ymgyrch hon.

Roedd cytundeb Lee Tomlin, a gafodd ei ymestyn y llynedd, i fod i ddod i ben ddiwedd y tymor hwn.

“Gall Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gadarnhau, yn dilyn trafodaethau hir, fod Lee Tomlin wedi gadael y clwb,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Hoffem ddiolch iddo am ei gyfraniad a dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.”