Mae Joe Ledley wedi dweud wrth chwaraewyr ifanc Cymru bod rhaid iddyn nhw berfformio yn absenoldeb Gareth Bale.

Bydd Cymru yn herio’r Weriniaeth Tsiec yn Prague ddydd Gwener (8 Hydref), cyn chwarae yn erbyn Estonia oddi cartref ddydd Llun (11 Hydref).

Nid yw’r capten yn y garfan ar gyfer y gêmau hyn oherwydd anaf “sylweddol”.

Roedd disgwyl i Bale, 32, ennill ei 100fed cap yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

“Mae’n bryd i’r chwaraewyr ifanc hyn gamu i fyny a pherfformio,” meddai Ledley oedd yn rhan o garfan llwyddiannus Cymru a gyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yng nghystadleuaeth Ewro 2016, ac sydd wedi chwarae i Gaerdydd, Celtic, Crystal Palace, Derby County a Charlton.

“Allwn ni ddim dibynnu ar Gareth a Rambo (Aaron Ramsey) am byth oherwydd ymhen ychydig flynyddoedd bydd eu gyrfaoedd yn dod i ben.

Disglair

“Mae ’na lot o chwaraewyr ifanc yn dod trwodd fel Neco Williams ac Ethan Ampadu felly mae’r dyfodol yn ddisglair.

“Mae angen i ni ddibynnu ychydig yn fwy ar y chwaraewyr hyn gan nad ydyn nhw mor ifanc â hynny mwyach ac wedi chwarae cryn dipyn.”

Gyda Bale yn absennol a phryderon ynglyn â ffitrwydd Ramsey, sydd wedi dechrau unwaith yn unig i Juventus y tymor hwn, mae’n debyg y bydd Daniel James, David Brooks a Harry Wilson yn chwarae rolau allweddol yn yr ymosod.

Bydd Rob Page, y rheolwr, y gobeithio ei bod nhw’n gallu dod â phroblemau Cymru flaen y gôl i ben.

Y gêm gartref ddi-sgôr yn erbyn Estonia fis diwethaf oedd y pedwerydd tro mewn pum gêm i Gymru fethu â sgorio.

Anodd

Mae Cymru’n drydydd yng Ngrŵp E yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, gyda’r un nifer o bwyntiau â’r Weriniaeth Tsiec, ond naw pwynt y tu ôl Wlad Belg sydd ar y brig.

Mae Cymru yn sicr o gael lle yn y gêmau ail-gyfle ym mis Mawrth oherwydd eu bod wedi ennill ei grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ond byddai sicrhau’r ail safle yn y grŵp sicrhau gêm gartref yn y gêmau ail gyfle yn hytrach na chwarae oddi cartref.

“Roedd gorffen yn gyntaf wastad yn mynd i fod yn anodd iawn,” meddai Ledley.

Cryfach

“Dw i’n gwybod ein bod ni wedi gwneud yn dda iawn yn erbyn Gwlad Belg o’r blaen ond maen nhw’n llawer cryfach nag mewn blynyddoedd blaenorol.

“Byddai pawb wedi cymryd ail (pan dynnwyd y grŵp), ond mae’n bwysig gorffen yn gryf a sicrhau ein bod yn chwarae gartref yn y gêmau ail-gyfle.

“Mae angen yr hwb yna o chwarae gartref arnom fel yr ydym wedi gweld yn y gorffennol, felly allwn ni ddim colli yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

“Pwy bynnag sy’n ennill fydd yn fwy tebygol o orffen yn ail.”