Mae Connor Roberts yn hyderus y gall Cymru ymdopi heb Gareth Bale a chadw eu breuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd yn fyw.

Bydd Cymru yn herio’r Weriniaeth Tsiec ym Mhrag ddydd Gwener (8 Hydref), cyn chwarae yn erbyn Estonia oddi cartref ddydd Llun (11 Hydref).

Nid yw’r capten yn y garfan ar gyfer y gemau hyn oherwydd anaf “sylweddol”, ynghyd ag ambell enw blaenllaw arall.

Roedd disgwyl i Bale, 32, ennill ei 100fed cap yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

“Allwch chi ddim disodli Gareth,” meddai Roberts. “Ond pan nad yw e yma mae’n rhaid i ni chwarae hyd yn oed mwy fel tîm, deall rhai chwaraewyr a beth maen nhw’n dda am ei wneud.

“Mae Gaz wedi methu chwarae yn y gorffennol ac rydyn ni wedi chwarae’n dda iawn, rydyn ni wedi edrych yn dîm taclus.

“Bydd amser pan fydd e wedi symud ymlaen a dyw e ddim yn chwarae pêl-droed mwyach.

“Mae angen i ni alw ar chwaraewyr eraill, fel Harry Wilson a Kieffer Moore.

“Mae gennym chwaraewyr da eraill ac mae angen iddyn nhw ddangos beth maen nhw’n gallu ei wneud pan maen nhw’n cael y cyfle.”

“Barod i fynd”

Nid yw Roberts wedi chwarae i Burnley eto ers ymuno o Abertawe ar ddiwrnod olaf cyfnod trosglwyddo’r haf ym mis Awst – ond mae’n dweud ei fod yn “barod i fynd”.

Cafodd yr asgellwr cefn 26 oed lawdriniaeth ar ôl cael ei anafu wrth i Gymru golli yn erbyn Denmarc ym mis Mehefin.

“Dw i wedi chwarae cwpl o gemau dan 23 oed ac wedi hyfforddi am ychydig wythnosau,” meddai..

“Rwy’n adnabod fy nghorff ac rwy’n gwybod pa fath o berson ydw i.

“Rwy’n teimlo bron yn 100% ac yn barod i fynd, yn barod i chwarae fy rhan.

“Rwy’n gwybod y bydd pobol yn edrych o’r tu allan, a hyd yn oed ar y tu mewn, ac yn dweud ’dwyt ti heb chwarae ers sbel’.

“Mae’n newid achos dydw i erioed wedi cael fy anafu o’r blaen, felly dydw i ddim yn gwybod yn union sut y byddaf i yn y gêm gyntaf yn ôl.”

Sefyllfa Cymru yn y grŵp

Mae Cymru’n drydydd yng Ngrŵp E yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd, gyda’r un nifer o bwyntiau â’r Weriniaeth Tsiec ac wedi chwarae gêm yn llai – ond naw pwynt y tu ôl Wlad Belg sydd ar y brig.

Mae Cymru yn sicr o gael lle yn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth oherwydd eu bod wedi ennill ei grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ond byddai sicrhau’r ail safle yn y grŵp sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle yn hytrach na chwarae oddi cartref.