Mae undeb Rygbi’r Byd yn trafod atal timau rhag chwarae ei gilydd mewn crysau coch a gwyrdd.

Mewn ymgais i helpu cefnogwyr, swyddogion a chwaraewyr sy’n dioddef o ddallineb lliw, gall y gwaharddiad fod mewn grym erbyn Cwpan Rygbi’r Byd 2027.

Byddai hynny’n golygu na fyddai Cymru ac Iwerddon yn chwarae ei gilydd yn eu crysau cartref o hynny ymlaen.

Mae’r math penodol o ddallineb lliw sy’n cael ei ystyried, sef deuteranopia, yn effeithio ar allu pobol i wahaniaethu rhwng lliwiau coch a gwyrdd, er y byddai person cyffredin yn llwyddo i ddweud y gwahaniaeth yn hawdd.

Mae’n debyg bod 1 mewn 12 o ddynion ac 1 mewn 200 o ferched yn dioddef o’r math hwn o ddallineb lliw, yn ôl y Gwasanaeth Iechyd.

Mewn partneriaeth â sefydliad Colour Blind Awareness, mae Rygbi’r Byd am geisio lleihau’r problemau i’r rheiny sydd â’r cyflwr.

“O’n persbectif ni, os ydych chi o bosib yn cyfyngu wyth y cant o’ch cynulleidfa wrywaidd, mae hynny’n nifer enfawr o bobol sy’n diffodd y gêm yn sydyn,” meddai Cadeirydd Rygbi’r Byd, Bill Beaumont.