Daeth Jonny Clayton o set i lawr i guro Jose de Sousa 3-1 a chyrraedd rownd gogynderfynol Grand Prix y Byd am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Bydd y Cymro yn herio Krzysztof Ratajski nos Iau (7 Hydref), wedi i’r gŵr o Wlad Pwyl drechu Rob Cross.

Mae’r pencampwr a’r Cymro Gerwyn Price yn wynebu Dave Chisnall ar yr un noson.

Curodd Danny Noppert Vincent van der Voort 3-0 a bydd yn chwarae yn erbyn Ian White – wnaeth drechu Darius Labanauskas 3-2

Dywedodd Jonny Clayton ei fod yn “gwerthgawrogu’r holl gefnogaeth gan bawb”.