Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones, yn chwarae i’r Gweilch am y tro cyntaf y tymor hwn nos yfory (7 Hydref), wrth iddyn nhw groesawu’r Sharks o Dde Affrica yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Mae Jones, 36, wedi colli’r ddwy fuddugoliaeth agoriadol yn erbyn y Dreigiau a Chaerdydd ar ôl bod yn gapten ar Lewod Prydain ac Iwerddon yn Ne Affrica.
Dychwelodd clo’r Llewod, Adam Beard, yn gynharach na Jones ac mae wedi chwarae ambell waith oddi ar y fainc.
Arweiniodd Jones y Llewod yn y gyfres, gafodd ei cholli 2-1, wedi adferiad rhyfeddol o anaf i’w ysgwydd yn saith munud agoriadol y gêm gynhesu cyn y daith yn erbyn Japan yng Nghaeredin.
Ddeunaw diwrnod yn ddiweddarach fe hedfanodd Jones i Dde Affrica ac aeth ymlaen i arwain y twristiaid ym mhob un o’r tri Phrawf.
“Her wahanol”
“Ar ôl gweld tîm y Sharks, rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n fawr ac mae pedwar chwaraewr ail res yn nhîm cyntaf [De Affrica],” meddai prif hyfforddwr y Gweilch, Toby Booth.
“Fe ddaru ni ddefnyddio ein blaenwyr yn effeithiol yn ein perfformiad yn erbyn Caerdydd ac mae’n amlwg bod hynny wedi cael ei ystyried.
“Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n mynd i fod yn gorfforol ac y bydd ganddyn nhw gêm gicio dda.
“Bydd yn her wahanol ac yn un cyffrous gan ein bod yn chwarae rhywun newydd.”
Y timau
Y Gweilch: Dan Evans; Mat Protheroe, Tiaan Thomas Wheeler, Owen Watkin, Luke Morgan; Gareth Anscombe, Rhys Webb (capten); Nicky Smith, Sam Parry, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones, Will Griffiths, Jac Morgan, Morgan Morris.
Eilyddion: Elvis Taione, Gareth Thomas, Tom Botha, Rhys Davies, Ethan Roots, Reuben Morgan-Williams, Stephen Myler, Joe Hawkins .
Sharks: Anthony Volmink; Marnus Potgieter, Jeremy Ward, Marius Louw, Thaakir Abrahams; Boeta Chamberlain, Ruan Pienaar; Ntuthuko Mchunu, Kerron van Vuuren, Thomas du Toit (capten), Ruben van Heerden, Hyron Andrews, James Venter, Gerbrandt Grobler, Henco Venter.
Eilyddion: Dan Jooste, Khwezi Mona, Lourens Adriaanse, Le Roux Roets, Phepsi Buthelezi, Dylan Richardson, Sanele Nohamba, Werner Kok.