Mae amddiffynnwr Abertawe, Brandon Cooper, yn bwriadu adeiladu ar ei gynnydd gyda’i glwb a’i wlad tra ar ddyletswydd gyda Chymru dan-21.

Mae Cooper wedi dechrau pum gêm i Abertawe’r tymor hwn a chafodd ei ychwanegu at garfan Cymru ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd gydag Estonia fis diwethaf.

“Roeddwn i’n falch o gael y galw i fyny a hyfforddi gyda rhai o’r enwau mawr fel Gareth Bale,” meddai Cooper cyn gêm ragbrofol Pencampwriaeth Dan-21 Ewrop 2023 ym Moldova ddydd Gwener (8 Hydref)

“Dyna’r cam nesaf ac roedd yn brofiad da iawn.

“Rydych chi’n cael y cyfle i holi’r chwaraewyr blaenllaw oddi ar y cae ac mae’n wych eu bod yn cymryd diddordeb ynoch chi.”

‘Gobeithio chwarae mwy’

Gan adeiladu ar gyfnod llwyddiannus ar fenthyg yng Nghasnewydd y tymor diwethaf, mae Cooper wedi sefydlu ei hun yn nhîm cyntaf Abertawe ers i Russell Martin gymryd yr awenau ym mis Awst.

Mae’r gŵr 21 oed yn dweud ei fod am chwarae yn gyson drwy’r tymor.

“Mae’r steil o chwarae y mae’r rheolwr wedi’i chyflwyno yn fy siwtio o ran ein bod yn chwarae lot gyda’r bêl,” meddai Cooper.

“Mae’n adnabyddus am hynny yn ei gyfnod byr fel rheolwr yn barod ac mae ei gêm meddiant yn fy siwtio i.

“Dw i wedi cael dechrau da, wedi chwarae yn y canol ac ar y ddwy ochr mewn tri yn y cefn, a gobeithio y galla i chwarae mwy wrth i’r tymor fynd yn ei flaen.”

Moldofa yn “dîm anodd i’w chwarae”

Mae Cymru’n ailgydio yn eu hymgyrch ragbrofol dan-21 yn erbyn Moldofa yfory (nos Wener, 8 Hydref), gyda’r gic gyntaf am 7 o’r gloch.

Daw hyn ar ôl buddugoliaeth fawr o 4-0 ym Mwlgaria fis diwethaf, wnaeth eu codi i’r ail safle yn y grŵp y tu ôl i’r Swistir.

“Maen nhw’n dîm anodd i’w chwarae. Maen nhw’n gweithio’n galed, maen nhw’n gorfforol ac yn cael llawer o ddynion y tu ôl i’r bêl,” meddai Cooper.

“Mae’n gallu bod yn anodd eu torri nhw lawr, felly rydyn ni’n mynd i orfod gweithio’n galed.

“Roedd gêm Bwlgaria, gobeithio, yn drobwynt, ac os gallwn gynhyrchu mwy o hynny dylem fod yn iawn.”