Mae Aaron Ramsey wedi cyfaddef bod dulliau hyfforddi Cymru yn gweddu’n well iddo ac awgrymu bod angen i Juventus gymryd newid eu dulliau er mwyn iddo allu chwarae mwy o gemau.
Mae Ramsey wedi cael amser rhwystredig gydag anafiadau yn Juventus ers symud yno o Arsenal yn haf 2019.
Dim ond 25 o gemau cynghrair y mae’r chwaraewr 30 oed wedi’u dechrau i Juve – a dim ond un y tymor hwn oherwydd problem gyda’i gyhyrau.
Mae Ramsey wedi bod yn absennol yn aml i’w wlad dros y tymhorau diwethaf – ond roedd yn ffit drwy gydol Euro 2020 yn ystod yr haf gan ddechrau bob gêm i Gymru.
“Mae’r athroniaeth a’r dulliau hyfforddi yn wahanol yn fy nghlwb,” meddai Ramsey, sy’n cymryd drosodd fel capten Cymru yn lle Gareth Bale, sydd wedi’i anafu, ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ym Mhrag ddydd Gwener.
“Mae ’na lot o bobl yma [gyda Chymru] sydd â nifer o flynyddoedd o brofiad o fy rheoli. Felly maen nhw’n gwybod sut i gael y gorau allan ohona i a gadael i mi chwarae llawer o gemau yn olynol, fel y dangosais i yn yr Ewros.
“Dw i’n gallu gwneud hynny a chynhyrchu perfformiadau da. Dw i’n teimlo’n dda, yn barod i fynd.”
Dim ond 105 munud o amser ar y cae i Juventus y mae Ramsey wedi’i gael ers dychwelyd o’r Ewros.
Yn ogystal â dechrau un gêm yn Serie A, mae wedi gwneud tri ymddangosiad arall gyda’r olaf o’r rheiny ar 26 Medi.
“Gan fod fy allbwn mewn gemau yn eithaf uchel, efallai bod angen ychydig mwy o orffwys ac adfer arna’ i drwy gydol yr wythnos yn hytrach na bod ar y cae ymarfer am gyfnod hir a chario mwy o flinder i gemau,” meddai Ramsey.
“Mae adfer yn beth mawr i mi. Dw i’n gyffrous iawn i fod yn ôl yn cymryd rhan a gobeithio y galla’ i chwarae fy rhan.”
Rhwystredig
Datgelodd Ramsey yn ystod yr Ewros ei fod wedi cyflogi staff ffitrwydd personol i’w gael i’r “cyflwr gorau posibl” ar gyfer yr haf.
Ond mae wedi bod yn darged i gefnogwyr Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol am ei absenoldebau rheolaidd.
“Mae wedi bod yn amser rhwystredig,” meddai Ramsey.
“Ond dw i’n hapus i fod yma, yn ôl gyda’r bechgyn, a gobeithio y gallaf chwarae fy rhan yn y gemau nesaf.
“Mae chwarae dros Gymru yn golygu popeth i mi – rydw i mor falch o gynrychioli fy ngwlad.
“Dw i wedi bod mor rhwystredig ag unrhyw un arall am faint o gemau dw i wedi’u colli yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Dw i’n edrych ymlaen at y ddwy gêm yma ac i gapteinio… bydd arwain y bechgyn allan yn arbennig.
“Dw i wedi ei brofi o’r blaen [bod yn gapten] – ac roeddwn i wrth fy modd gyda phob munud o hynny. Dw i’n siŵr y bydd yn foment o falchder i fi a fy nheulu.”
Dychwelyd i Uwchgynghrair Lloegr?
Yn ddiweddarach, dywedodd rheolwr Cymru, Robert Page, ei fod yn credu y byddai Ramsey yn elwa o ddychwelyd i Uwchgynghrair Lloegr.
“Mae’n drueni mawr nad yw’n chwarae o wythnos i wythnos [yn yr Eidal]” meddai Page am Ramsey, “Byddwn i wrth fy modd yn ei weld yn chwarae yn yr Uwchgynghrair [eto].
“Mae’n haeddu bod yn chwarae o wythnos i mewn yn yr Uwchgynghrair ac mae angen i’r cefnogwyr gael ei wylio a gweld beth mae’n gallu ei wneud.
“Rydych chi’n ei weld yn hyfforddi ac mae’n ysbrydoli’r chwaraewyr,” meddai Page “Ar ôl Bale-o mae e’n [gapten] naturiol i fi.
“Does gennym ni ddim Gareth y tro hwn, ond mae gennym ni DJ [Daniel James] sy’n mwynhau ei bêl-droed ar y funud. Mae Kieffer (Moore) yn fygythiad cyson, a phan fydd gennych chi bobl fel Aaron yn y tîm… bydd rheolwyr y gwrthwynebwyr yn talu sylw.
“Mewn gemau mawr, mae’n camu fyny… ac mae hon yn gêm fawr.”
Yr hyn sydd yn y fantol
Mae gan Gymru yr un nifer o bwyntiau â’r Weriniaeth Tsiec, a hynny wedi chwarae gêm yn llai.
Mae’r ddwy wlad yn brwydro am yr ail safle y tu ôl i Wlad Belg – byddai gorffen yn ail yn golygu gêm ail-gyfle gartref yn hytrach nag oddi cartref.