Mae rheolwr Cymru, Robert Page, wedi dweud bod ei chwaraewyr yn barod i gerdded oddi ar y cae yn eu gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ym Mhrag os ydyn nhw’n wynebu camdriniaeth hiliol “annerbyniol”.

Mae Cymru’n mynd i brifddinas y Weriniaeth Tsiec wythnos yn unig ar ôl i chwaraewr Rangers, Glen Kamara, gael ei gam-drin yn hiliol yno yn ystod gêm Cynghrair Europa.

Mae UEFA wedi agor ymchwiliad i’r digwyddiadau hynny yn ystod y gêm rhwng Sparta Prague a Rangers – digwyddiadau a sbardunodd ddadl ddiplomataidd rhwng y Weriniaeth Tsiec a’r Deyrnas Unedig.

Gwaharddwyd cefnogwyr Sparta yn dilyn camdriniaeth hiliol o Tchouameni Aurelius, chwaraewr Monaco, ym mis Awst – ond caniatawyd i tua 10,000 o blant ysgol fynd i’r gêm yn erbyn Rangers, a chafodd Kamara – a gafodd ei gam-drin yn hiliol gan chwaraewr Slavia Prague yn ôl ym mis Mawrth – ei dargedu gyda “chamdriniaeth ffiaidd,” yn ôl undeb chwaraewyr yr Alban.

Fodd bynnag, yn eu tro, galwodd Sparta’r honiadau yn “ymosodiadau senoffobig” ar y plant a oedd yn bresennol, a chafodd llysgennad Prydain i’r Weriniaeth Tsiec ei alw i gyfarfod gan weinidog tramor y wlad.

Polisi “dim goddefgarwch” gan Gymru

Pan ofynnwyd sut y byddai Cymru yn ymateb i gamdriniaeth hiliol yn erbyn ei chwaraewyr yn Stadiwm Sinobo ddydd Gwener, dywedodd Page y byddai gan gan Gymru bolisi “dim goddefgarwch”.

“Mae protocolau ar waith a bydd pob un chwaraewr yn yr ystafell newid yn gwybod bod ganddynt gefnogaeth y cyrff llywodraethu priodol,” meddai Page.

“Os oes angen cymryd camau, byddwn yn sicr yn gwneud hynny fel grŵp.

“Ni fyddwn yn goddef hynny – ni fydd unrhyw oddefgarwch o ran unrhyw gamdriniaeth hiliol.

Cymryd y ben-glin

“Fe fyddwn ni’n cymryd y ben-glin oherwydd dyna, yn ein barn ni, yw’r neges gywir i barhau i’w dangos,” meddai Page.

“Allwn ni ddim dylanwadu ar sut mae’r dorf yn ymateb. Ond beth wnawn ni yw ymddwyn yn briodol. Ry’n ni’n gwybod fel grŵp beth sy’n dderbyniol a beth sydd ddim.”

Dywedodd Gareth Bale fis diwethaf, ar ôl i chwaraewyr Lloegr ddioddef camdriniaeth hiliol yn Hwngari, y byddai ef yn cefnogi ei chwaraewyr yn cerdded oddi ar y cae yn wyneb ymddygiad o’r fath.

Bydd Bale yn methu’r gêm hon oherwydd anaf, ond dywedodd Page ei fod yn llwyr gymeradwyo safbwynt yr ymosodwr.

Dywedodd Page: “Wrth gwrs mae [cerdded i ffwrdd] yn opsiwn. Os yw mor ddrwg â hynny, a’n bod ni’n credu ei fod yn gwbl annerbyniol, y gamdriniaeth y mae’r chwaraewyr yn ei gael, yna’n sicr [byddem yn gwneud hynny].

“Rydyn ni i gyd yn sefyll gyda’n gilydd ac os oes angen gwneud, yna rydyn ni’n gwbl barod i wneud hynny.”