Mae’r Wal Goch “out in force” ym Mhrâg wrth i gefnogwyr gael teithio i gemau oddi cartref Cymru gyda bendith y Llywodraeth am y tro cyntaf ers 2019.
Mae hi’n noson fawr i Gymru wrth iddyn nhw herio’r Weriniaeth Tsiec, a hynny heb y seren Gareth Bale sydd wedi sgorio 36 o goliau mewn 99 o gemau tros ei wlad.
Ond mae’r cefnogwyr wrth eu boddau o gael bod ar grwydr unwaith eto.
“Wnes i gyrraedd yma’n hwyr neithiwr wedyn es i allan am beint, roedd hi’n bouncing, i ddeud y lleiaf,” meddai Gareth Murphy, sy’n wreiddiol o Gaernarfon.
“Mae yna lot ohonom ni allan yma, dw i’n meddwl fod yna 1,200 i gyd.
“Mae yna vibe da yma hefyd, digon o bobol yn gwisgo coch ymhob man ti’n mynd. Felly, ia – mae’r Wal Goch out in force.”
Sut hwylia sydd ar y bobol leol?
“Rydan ni wedi siarad efo dipyn o’r locals do, ond un boi dw i’n meddwl dw i di weld yn gwisgo crys Czech ac roedd o’n ddigon clên, eithaf jovial,” meddai Gareth Murphy.
“Wnes i siarad efo un boi yn y bar hefyd oedd yn dweud: ‘I hope Wales do good but the Czech Republic will win’.”
Mae’r gic gyntaf ym Mhrâg am 8.45 heno – sef 7.45 yma yng Nghymru… felly beth ydi cynllun Gareth tan hynny?
“Yfad, yfad ac yfad!”
“Fel tasa fo back in the day!”
Roedd Gareth yn un o’r cefnogwyr wnaeth deithio i Baku ar gyfer dwy gêm agoriadol Cymru yn nhwrnament Ewro 2020 – pan roedd cyfyngiadau’r coronafeirws wedi golygu nad oedd gymaint o gefnogwyr wedi teithio.
Pa mor wahanol yw pethau’r tro yma ym Mhrâg?
“Wel, yn amlwg roedd yr Ewros ychydig yn rhyfedd,” meddai Gareth.
“Dydi’r Ewros ddim yn digwydd bob dydd nac ydi, ac roedd o’n gorfod digwydd mewn pandemig felly obviously doedd lot o bobol jyst methu gwneud hi.
“Ond mae’r trip yma i Prâg rŵan ychydig mwy fel normalrwydd, mae o fwy neu lai yn normal.
“Ma’ gen ti gwpl o bethau fatha bod y stadiwm eisio i bobol wisgo masg special heno, ond heblaw am hynna does yna ddim lot o ddim byd [yn wahanol].
“Mae spirits yn uchel, mae o fel tasa fo back in the day!”
“Ella bod draw ddim digon da”
“Dw i bob tro yn hyderus, ond mae hynna’n gallu bod yn foolishly confident hefyd achos ti methu ennill pob gêm,” meddai Gareth wrth ystyried yr her heno yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.
“Mae’r Czechs yn dîm da ac mae hi’n mynd i fod yn gêm anodd.
“Maen nhw wedi chwarae un gêm yn fwy na ni, ond mae gena ni Gwlad Belg i ddod.
“Felly mae o’n un o’r rheina lle mewn ffordd mi faswn i’n hapus efo draw – mi fasa hynna yn good result yn erbyn tîm mor dda, yn enwedig gan bo’ ni ddim efo Bale hefyd.
“Ond ella bod draw ddim digon da, felly mae o’n un anodd.”
Triphwynt yn hwb enfawr i Gymru
Wrth fynd i mewn i’r gêm mae’r Weriniaeth Tsiec yn ail a Chymru yn drydydd yng ngrŵp E – ond mae’r ddau dîm yn hafal o ran pwyntiau.
Felly byddai triphwynt yn hwb enfawr wrth i ddynion Rob Page.
Mae Cymru yn sicr o gael lle yn y gemau ail-gyfle ym mis Mawrth oherwydd eu bod wedi ennill ei grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Ond byddai sicrhau’r ail safle yn y grŵp yn sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle yn hytrach na chwarae oddi cartref.