Mae gobeithion Cymru o orffen yn yr ail safle yn eu grŵp rhagbrofol yn dechrau pylu, ar ôl gêm gyfartal llawn cyffro yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.
Er i’r canlyniad fod yn siomedig, roedd perfformiad Cymru erbyn diwedd yr ail hanner yn addawol iawn, ar ôl bod gôl i lawr.
Ac er bod y Weriniaeth wedi chwarae gêm yn fwy, bydd rhaid i Gymru obeithio am ganlyniadau ffafriol yn eu gemau olaf, sy’n cynnwys gêm gartref yn erbyn arweinwyr y grŵp, Gwlad Belg.
Byddai gorffen yn ail yn sicrhau gêm ail gyfle gartref i Gymru, er ei bod hi’n debygol y byddan nhw’n cael lle beth bynnag ar ôl ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Y Wal Goch yn dychwelyd
Roedd rhai o’r prif chwaraewyr wedi bod yn absennol ar gyfer yr ornest yn Stadiwm Sinobo ym Mhrag – gyda’r mwyaf amlwg ohonyn nhw, Gareth Bale, yn dioddef o anaf i linyn ei gar.
Ar ben hynny, fe wnaeth pedwar chwaraewr – David Brooks, Ben Davies, Rhys Norrington-Davies a Tom Lockyer – orfod gadael y garfan yn ystod yr wythnos oherwydd anaf neu salwch.
Serch hynny, fe roddodd dychweliad Aaron Ramsey i’r garfan a’r gapteniaeth fodd i fyw i gefnogwyr, sydd wedi teithio yn eu cannoedd i brifddinas y Weriniaeth.
Y Wal Goch “out in force” ym Mhrâg – cefnogwyr Cymru ar grwydr am y tro cyntaf ers 2019
Dyma oedd y trip oddi cartref cyntaf i’r Wal Goch (ac eithrio’r rhai ffodus a aeth i’r Ewros!), ers y fuddugoliaeth dros Azerbaijan yn 2019.
Hanner Cyntaf
Ac fe wnaeth y cefnogwyr hynny’n glir gyda pherfformiad llawn angerdd o ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn eu cornel nhw o’r stadiwm.
Fe dderbyniodd chwaraewyr Cymru ymateb siomedig oddi wrth gefnogwyr y tîm cartref, wrth iddyn nhw gael eu bwio am gymryd pen-glin cyn y gic gyntaf.
Yn y funud gyntaf, fe welodd Aaron Ramsey gerdyn melyn dadleuol am gysylltu â wyneb Filip Novak wrth neidio am y bêl.
Roedd pwysau cynnar wrth i ymosodwyr y Weriniaeth chwarae’n slic, a daeth y bygythiad cyntaf ar ôl i ergyd isel Adam Hložek gael ei harbed gan Danny Ward.
Daeth cyfle euraidd i Gymru wrth i ddau ymosodwr dorri’n rhydd i wynebu un amddiffynnwr, ond daeth pas Daniel James yn rhy hwyr i roi ergyd hawdd i Kieffer Moore.
Llwyddodd Cymru i dawelu pryderon yn dilyn y cyfle hwnnw, gyda chwarae mwy cywir ac agored, a arweiniodd at un neu ddau o gyfleoedd addawol.
Yn erbyn rhediad y chwarae, gwyrodd ergyd gan Patrik Schick, prif sgoriwr presennol y Weriniaeth, dros y trawst ar ôl dod oddi ar amddiffynnwr Cymru, gan ildio cic gornel.
Goliau
Yn syth wedi’r gic gornel hwnnw, fe ddechreuodd Aaron Ramsey wrthymosodiad, a llwyddo i gyrraedd y cwrt cosbi i fod ar ddiwedd croesiad Neco Williams, gan sgorio gôl gyntaf Cymru.
Eiliadau yn ddiweddarach, fe brofodd yr ystrydeb bod tîm ar eu gwanaf wedi sgorio yn wir, wrth i Jakub Pešek unioni’r sgôr ar ôl i’r bêl adlamu i’w draed o arbediad gan Danny Ward.
Y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf hynod o gyffrous felly oedd 1-1.
Ail hanner
Dechreuodd yr ail hanner yn y ffordd waethaf posib, wedi i Gymru ildio gôl drychinebus.
Fe wnaeth y golwr, Danny Ward, fethu â chymryd cyffyrddiad hawdd o bas Aaron Ramsey, ac o hynny, llithrodd y bêl yn syth i gefn y rhwyd.
Ar ôl y gôl honno, fe dawelodd y gêm wrth i’r Weriniaeth gymryd rheolaeth, ond fe ymatebodd Cymru drwy gyflwyno opsiynau mwy ymosodol i’r cae, sef Harry Wilson a Connor Roberts, a oedd yn chwarae ei gêm gyntaf ers yr Ewros.
Llwyddodd Roberts i wneud argraff yn syth, gyda’i groesiad yn cyrraedd pen Kieffer Moore, a golwr y Weriniaeth yn ei chofleidio ar y llinell gôl.
Harry i’r adwy
Gyda’r chwarae’n dechrau poethi i Gymru, fe wnaeth yr eilydd arall, Harry Wilson, roi pêl gain drwyddo i Daniel James, ac fe lwyddodd hwnnw i gymryd cyffyrddiad cyntaf campus, cyn saethu’n berffaith i gornel y rhwyd.
O hynny, fe ddeffrodd y 1,200 o gefnogwyr y Wal Goch o’u cwsg, gan sbarduno rhai o gyfleoedd gorau’r gêm i Gymru – yn cynnwys ergyd gan Wilson, peniad arall gan Moore, ac ymdrech fedrus gan Roberts.
Gyda chwarter awr yn weddill, daeth Sorba Thomas, asgellwr Huddersfield, ymlaen i wneud ei ymddangosiad cyntaf i Gymru, ar ôl dringo o ddyfnderoedd y pyramid pêl-droed yn Lloegr i bêl-droed rhyngwladol.
Rhoddodd Rob Page un rholiad olaf i’r deis gan ddod â’r ymosodwr Tyler Roberts ymlaen am yr amddiffynnwr Chris Mepham i geisio ennyn gôl fuddugol allan o Gymru.
Daeth hynny yn ofer wrth i Gymru fethu â bygwth y Weriniaeth yn neng munud olaf y gêm, ac fe orffennodd y gêm hollol hurt yn eithaf lleddf, gyda’r sgôr terfynol yn 2-2.
“Haeddu mwy”
Fe siaradodd chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, am eu perfformiad ar ôl y gêm.
“Dw i’n hapus gyda’r perfformiad,” meddai ar Sgorio.
“I ddod oddi cartref yn erbyn tîm gyda record mor dda gartref, a chwarae fel yna, mae’n dangos beth rydyn ni’n gallu ei wneud fel tîm.
“Yn anffodus, gawson ni ddim triphwynt, ac wrth gwrs – dw i’n biased – ond dw i’n meddwl ein bod ni wedi haeddu mwy, o ran y perfformiad a’r siawnsiau wnaethon ni greu.
“Bydd angen inni fynd i mewn i’r gemau nesaf a chael y pwyntiau yn fan hynny yn lle.”
Y Tîm
Cymru: Danny Ward, Chris Gunter, Chris Mepham, Joe Rodon, Ethan Ampadu, Neco Williams, Joe Morrell, Joe Allen, Aaron Ramsey (capt.), Kieffer Moore, Daniel James
Eilyddio: Harry Wilson (am Morrell), Connor Roberts (am Gunter), Sorba Thomas (am Williams), Tyler Roberts (am Mepham)