Bydd y bachwr Ken Owens a’r mewnwr Gareth Davies yn chwarae i’r Scarlets am y tro cyntaf ers taith y Llewod y penwythnos hwn.
Mae’r ddau wedi cael eu henwi yn yr 15 cyntaf i chwarae Munster ar Barc y Scarlets ddydd Sul, 10 Hydref, gyda phrop y Llewod, Wyn Jones, ymysg yr eilyddion.
Bydd y gêm yn nhrydedd rownd y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn fwy ar S4C, gyda’r gic gyntaf am 14:00.
Gareth Davies yw’r unig newid i olwyr y Scarlets, gan gymryd lle’r mewnwr arall o Gymru, Kieran Hardy, a ddechreuodd yn erbyn yr Emirates Lions yr wythnos ddiwethaf.
Bydd Lloyd Ashley yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Scarlets yn yr ail reng, a bydd y chwaraewyr rhyngwladol Aaron Shingler a Samson Lee yn dychwelyd i’r pac.
Does dim lle i Liam Williams, Leigh Halfpenny na Rhys Patchell – y tri wedi eu gadael allan oherwydd anafiadau.
Mae dau o chwaraewyr mwyaf profiadol Munster, Tadhg Beirne a Conor Murray, eto i ddychwelyd i’r garfan yn dilyn taith y Llewod.
“Cam i fyny o ran dwyster”
Bu Dwayne Peel, Prif Hyfforddwr newydd y Scarlets y tymor hwn, yn trafod y Gwyddelod cyn y gêm.
“Mae Munster yn dîm 80 munud, felly mae’n bwysig ein bod ni’n ymateb i’r dwyster hwnnw ar gyfer y gêm gyfan,” meddai.
“Byddan nhw’n fywiog yn dod yma ac yn barod i ddod ar ein holau ni yn gorfforol.
“Dyna’r her i ni, rydyn ni’n parchu hynny ac yn gwybod y bydd yn gam i fyny o ran dwyster yr wythnos hon.”
Y tîm
Scarlets: 15. Johnny McNicholl, 14. Tom Rogers, 13. Jonathan Davies (capten), 12. Scott Williams, 11. Steff Evans, 10. Sam Costelow, 9. Gareth Davies; 1. Rob Evans, 2. Ken Owens, 3. Samson Lee, 4. Lloyd Ashley, 5. Aaron Shingler, 6. Blade Thomson, 7. Dan Davis, 8. Sione Kalamafoni
Mainc: 16. Ryan Elias, 17. Wyn Jones, 18. WillGriff John, 19. Morgan Jones, 20. Shaun Evans, 21. Kieran Hardy, 22. Dan Jones, 23. Johnny Williams
Y gwrthwynebwyr
Munster: 15. Matt Gallagher, 14. Calvin Nash, 13. Liam Coombes, 12. Dan Goggin, 11. Shane Daly, 10. Ben Healy, 9. Neil Cronin; 1. Jeremy Loughman, 2. Diarmuid Barron, 3. Stephen Archer; 4. Thomas Ahern, 5. Fineen Wycherley; 6. Jack O’Donoghue (capten), 7. Chris Cloete, 8. Jack O’Sullivan
Mainc: 16. Kevin O’Byrne, 17. Josh Wycherley, 18. John Ryan, 19. RG Snyman, 20. Alex Kendellen, 21. Paddy Patterson, 22. Jack Crowley, 23. Jack Daly