Bydd Josh Navidi yn chwarae i’r Gleision am y tro cyntaf ers taith y Llewod wrth iddyn nhw groesawu Vodacom Bull – sy’n dod o Dde Affrica – i Gaerdydd.

Mae hi’n gêm bwysig yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, a bydd y gic gyntaf am 7:35yh nos Sadwrn (9 Hydref).

Bydd y blaenwr yn un o bum newid yn nhîm y Gleision wedi iddyn nhw gael eu trechu gan y Gweilch yr wythnos diwethaf.

Mae Lloyd Williams yn cymryd lle Tomos Williams yn safle’r mewnwr, tra bod Owen Lane yn ffurfio’r tri ôl gyda Hallam Amos a Josh Adams.

Bydd saith o chwaraewyr rhyngwladol ar y fainc, gan gynnwys Tomos Williams a Willis Halaholo a wnaeth argraff y tro diwethaf allan ym Mharc yr Arfau.

Hon yw’r cyntaf o dair gêm sydd gan y Gleision gartref ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig gartref yn olynol ym Mharc yr Arfau, gyda gemau yn erbyn y Sharks a’r Dreigiau ar y gorwel.

“Cyffrous”

Dywedodd y Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Dai Young: “Rwy’n gyffrous ac yn gobeithio y bydd y cefnogwyr lleol yn dod allan i’n cefnogi.

“Mae’n gyfle cyntaf iddyn nhw edrych ar dîm o Dde Affrica.

“Mae pawb yn siarad am Super Rugby felly mae’n braf iddyn nhw gael y cyfle i’w gweld drostynt eu hunain.”

Tîm Caerdydd: Hallam Amos; Owen Lane, Rey Lee-Lo, Ben Thomas, Josh Adams; Rhys Priestland, Lloyd Williams; Rhys Carré, Kirby Myhill, Dmitri Arhip, Seb Davies, Matthew Screech, Josh Navidi, Will Boyde, James Ratti

Eilyddion: Kristian Dacey, Corey Domachowski, Dillon Lewis, Rory Thornton, Josh Turnbull, Tomos Williams, Willis Halaholo, Matthew Morgan