Roedd Sorba Thomas yn wen o glust i glust wrth iddo redeg ar y cae i wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru.

Ar ôl datgan ei lawenydd wrth gael ei alw i garfan Cymru, cafodd ymosodwr Huddersfield Town wireddu ei ddymuniad yn y gêm ragbrofol 2-2 Cwpan y Byd i ffwrdd yn erbyn y Weriniaeth Tsiec neithiwr.

Wrth i Gymru bwyso i geisio ennill y gêm a’r triphwynt, ennillodd Sorba ei gap cyntaf fel eilydd ar ôl 76 munud yn cymryd lle Neco Williams.

Yn syth bin dangosodd ei sgiliau a’i gyflymder ar yr asgell – serch nad ydio’n amddiffynwr naturiol

Yn ei gyfweliad hapus ar ôl y gêm ar gyfer rhaglen Sgorio S4C, roedd ei bleser a’i falchder yn amlwg.

 

 

Mewn cyfweliad wedi’r gêm, dywedodd ei fod yn gobeithio ei fod wedi gwneud ei fam yn falch ac ychwanegodd fod ei grys melyn m wedi’i lofnodi gan y garfan gyfan ac na allai aros i’w fframio a’i roi ar ei wal.

Cafodd ei fam ei geni yng Nghasnewydd.

Mae o wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel ffefryn gyda chefnogwyr y Wal Goch.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd ei enwi’n Chwaraewr Pencampwriaeth y Mis ar gyfer mis Awst, a soniodd am ei awydd i chwarae dros Gymru gyda phost Instagram hwyliog.

 

Doedd o ddim yn hapus iawn pan welodd ei gerdyn gêm FIFA 22 newydd. Nid yn unig oedd o ddim yn cytuno a’r sgoriau y dynodwyd iddo gan y gêm am ei gyflymder a’i sgiliau, ond roedd o yn wedi frifo bod ei gerdyn yn cynnwys baner Lloegr. Felly, fe osododd faner Cymru dros yr un arall.

Yn dilyn hynny, rhyddhaodd Huddersfield Town fideo yn ei ganmol a’i fawrygu am ei lwyddiant.

Roedd yn cynnwys Sorba a’i gyd-chwaraewr, Levi Colwill, yn gorchuddio baner Lloegr gyda baner Cymru ac yn dweud: “Mae hynny’n well, mae hynny’n well. Nawr edrychwch ar hynny. Cymro ydw i. Ydach chi’n dallt.”