Methodd y Gweilch â sicrhau eu trydedd buddugoliaeth yn olynol ar ddechrau’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig mewn gem glos yn erbyn Sharks De’r Affrig neithiwr.
Roedd y tim cartref wedi cael hwb gyda ymddangosiad cyntaf capten Cymru, Alun Wyn Jones i’r rhanbarth ers taith y Llewod.
Ond serch hynny, d’oedd presenoldeb y capten ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth.
Y Gweilch sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm gyda dwy gic gosb gan Gareth Anscombe.
Cosbi
Ond fe wnaeth Boeta Chamberlain wneud hi’n gyfartal 6-6 gyda dwy gic adlam.
Dangosodd y Siarcod eu dannedd a’u medrau yn yr ail hanner gyda cheisiau gan Jeremy Ward a Marnus Potgieter, trydedd gic adlam gan Chamberlain a chic gosb gan Ruan Pienaar.
Sgoriodd Gareth Thomas gais gysur hwyr i’r Gweilch ac fe ychwanegodd Stephen Myler at y pwyntiau gyda’i drosiad i wneud y sgôr yn 13-24.
Ond fe gafodd y tîm ei gosbi’n am gamgymeriadau diangen a manteisiodd y Sharks ar eu diffyg disgyblaetg.
Y sgôr terfynol, wedi cic gosb olaf Pienaar, oedd 13-27 gan sicrhau buddugoliaeth gyntaf y Sharks yn y bencampwriaeth