Bydd Gerwyn Price yn amddiffyn ei deitl Grand Prix y Byd yn erbyn ei gyd-Gymro Jonny Clayton yng Nghaerlŷr heddiw.

Roedd Stephen Bunting o Loegr yn wrthwynebydd caled cyn i’r rhif un o’r byd Price ymladd yn ôl o ddwy set i lawr i ennill 4-2 ddoe.

Curodd Clayton Danny Noppert 4-1 yn gynharach.

Mae’n golygu y bydd y ddau Gymro sydd wedi ennill Cwpan y Byd 2020 yn cystadlu am wobr o £100,000 i’r ennillydd.

Byddai buddugoliaeth Clayton yn ei roi yn y 10 uchaf yn y byd am y tro cyntaf – byddai’n codi i’r seithfed lle o’r 14eg safle ble mae ar hyn o bryd.