Mae ymateb y Wal Goch i’r bwian gan gefnogwyr Gwlad Tsiec pan oedd chwaraewyr Cymru yn plygu glin yn erbyn hiliaeth wedi derbyn canmoliaeth.

Cyn y gêm neithiwr, roedd rheolwr Cymru, Robert Page, wedi pwysleisio bod Cymru yn daer yn erbyn hiliaeth.

Tanlinellwyd hynny wrth i chwaraewyr Cymru i gyd wisgo crysau T gyda’r geiriau ‘Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth’, ‘Show Racism the Red Card’ wrth ymarfer cyn y gêm yn Stadiwm Sinobo, Prâg neithiwr.

Daeth sylwadau rheolwr Cymru yn dilyn ymosodiadau hiliol, ffiaidd yn erbyn chwaraewyr clwb pêl-droed Glasgow Rangers – gan gynnwys Glen Kamara – yn ystod eu gêm yn erbyn Sparta Prague yr wythnos ddiwethaf.

Condemnio

Mae Uefa yn ymchwilio i’r helynt a arweiniodd at ffrae ddiplomyddol rhwng llywodraethau Gwlad Tsiec a’r Deyrnas Unedig.

Cafodd yr hiliaeth ei gondemnio’r llwyr gan undeb chwaraewyr pêl-droed yr Alban hefyd.

Neithiwr, dioddefodd chwaraewyr Cymru bwian, hisian a chwibanu gan gefnogwyr Gwlad Tsiec am benglinio i ddangos eu gwrthwynebiad i hiliaeth.

Ond fe benderfynodd y Wal Goch i ymateb yn unionsyth ac yn gadarnhaol i’r bwian gan y Tsieciaid drwy eu galw yn hiliol a thrwy siantio: “Racist bxxxxxds . . . . ”

Cafodd y safiad gefnogaeth llwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mewn trydar, dywedodd Arfon Jones, cyn gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru ei fod “yn falch iawn” o dîm Cymru am fynd ar eu pen-gliniau yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ac i gefnogwyr Cymru am eu hymateb cadarnhaol.

Mae cannoedd o bobl wedi gwylio clip fideo o gefnogwyr Cymru yn y Wal Goch yn dangos eu hanfodlonrwydd gyda hiliaeth y cefnogwyr Tsiec.