Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn 60 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot ddydd Gwener (Hydref 1).

Fe ddigwyddodd toc cyn 4.45yp ar ffordd A4241 rhwng Ffordd Afan a Pharc Ynni Baglan, a bu’n rhaid cau’r ffordd am rai oriau wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Wrth i’r ymchwiliad barhau, mae teulu Paul ‘Walter’ Watkins wedi talu teyrnged i “ddyn teulu ymroddedig” sy’n gadael partner, Suzanne Rose, ei blant Rebecca, Robert, Olivia ac Ava, ei rieni Heather a Dennis, ei frawd Garry a’i chwaer Karen, tri o wyrion a neiaint a nithoedd.

“Roedd e’n fecanydd uchel ei barch oedd yn cael ei garu, ac yn feiciwr modur brwd ar hyd ei oes,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Roedd e’n weithiwr ffyddlon yr oedd Mount Motorcycles, lle bu’n gweithio ers rhai blynyddoedd, yn ymddiried ynddo.

“Roedd Paul yn 60 oed a chafodd ei eni yng Nghastell-nedd, a’i fagu yn Sgiwen lle’r oedd e’n adnabyddus.

“Symudodd Paul i ardal Sandfields lle’r oedd e’n byw â’i bartner a dau o blant.

“Mae e wedi cael ei ddisgrifio gan ffrindiau fel ysbrydoliaeth ac yn chwedlonol, fe oedd y mecanydd beiciau gorau a ffrind y gallech chi ddymuno’i gael.

“Bydd e yn ein calonnau ni am byth a fydd e ddim yn cael ei anghofio.

“Does dim geiriau i ddisgrifio’r golled mae ein teulu’n ei theimlo ac yn ymdopi â hi ar hyn o bryd.”